Newyddion S4C

Ysgolion yn cau wrth i eira a rhew barhau i achosi trafferthion mewn rhannau o Gymru

Eira Ceredigion - Mawrth 2024

Mae nifer o ysgolion wedi cau yng ngogledd Cymru unwaith eto ddydd Gwener ôl i'r Swyddfa Dywydd cyhoeddi rhagor o rybuddion am rew ar draws Cymru gyfan. 

Roedd dau rybudd melyn am rew mewn grym fore Gwener gan effeithio ar y mwyafrif o'r wlad.

Cau ysgolion

Mae ysgolion ar gau mewn sawl sir ar draws Cymru yn sgil yr amodau gaeafol.

Conwy

Mae 12 ysgol yn Sir Conwy wedi eu cau ddydd Gwener, yn ôl y cyngor. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod bron i 30 o ysgolion ar gau hyd yma oherwydd y tywydd garw. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Mae Ysgol Bro Idris yn Nolgellau wedi cau yn rhannol gan aros ar agor i flwyddyn 11 sefyll eu harholiad Cymraeg Llenyddiaeth yn y bore yn unig. 

Mae Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes hefyd wedi cau yn rhannol gan aros ar agor er mwyn i flwyddyn 11 sefyll eu harholiad Cymraeg Llenyddiaeth, ac i flwyddyn 13, sydd yn sefyll arholiad Gwasanaethau Cyhoeddus yn y prynhawn. 

Ac mae Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog wedi cau yn rhannol gan aros ar agor er mwyn i flwyddyn 11 sefyll eu harholiadau yn ogystal. 

Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau bod 21 o ysgolion ar gau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Mae Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun wedi cau yn rhannol gan aros ar agor i flwyddyn 11 sy'n sefyll eu harholiadau. 

Sir y Fflint

Mae dwy ysgol ar gau yn Sir y Fflint yn sgil yr amodau gaeafol. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Ceredigion

Mae dwy ysgol ar gau yn sir Ceredigion oherwydd y tywydd oer, meddai'r cyngor. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Sir Gâr

Mae ysgol gynradd Cross Hands yn Llanelli ar gau gan fod y boeler yno'n ddiffygiol. Yn sgil y tymheredd rhewllyd roedd yn rhaid cau'r ysgol, meddai'r cyngor. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.

Rhybuddion

Roedd dau rybudd melyn am rew mewn grym ddydd Gwener gan effeithio ar y mwyafrif o'r wlad.

Fe ddaeth un rhybudd i ben am 10.00 oedd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru y tu hwnt i Gaerdydd a Chasnewydd.

Fe wnaeth ail rybudd, oedd yn berthnasol i'r siroedd canlynol yn unig, barhau tan 11.00:

·             Pen-y-bont ar Ogwr

·             Caerffili

·             Caerdydd

·             Sir Gaerfyrddin

·             Sir Fynwy

·             Castell-nedd Port Talbot

·             Casnewydd

·             Sir Benfro

·             Rhondda Cynon Taf

·             Abertawe

·             Torfaen

·             Bro Morgannwg

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai'r tywydd gaeafol ddydd Gwener yn gadael ardaloedd “rhewllyd ar arwynebau heb eu trin wrth i dymheredd ddisgyn o dan y rhewbwynt” dros nos.

“Bydd 2-4cm o eira yn cronni mewn rhai mannau, yn enwedig yng Nghymru ar fryniau uwch na 150m,” medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.