Rhagor o rybuddion tywydd am rew ar y gweill i Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn newydd am rew ar draws Cymru o brynhawn Iau tan fore Gwener.
Gallai’r amodau gaeafol effeithio ar ffyrdd a thrafnidiaeth a chynyddu’r risg o lithro ar arwynebau rhewllyd. Fe allai hyn arwain at balmentydd, llwybrau seiclo a ffyrdd sydd heb eu graeanu fod yn rhewllyd.
Bydd cawodydd gaeafol yn cychwyn brynhawn Iau gan barhau dros nos wrth i’r tymheredd ostwng islaw’r rhewbwynt.
Gall hyd at 2-4cm o eira groni ar dir uchel.
Bydd y rhybudd cyntaf mewn grym rhwng 16:00 brynhawn Iau a 10:00 ddydd Gwener.
Bydd y rhybudd hwn yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd a Phort Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Sir y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Môn
Bydd rhybudd melyn arall mewn grym rhwng 03:00 a 11:00 fore Gwener.
Bydd y rhybudd hwn yn effeithio’r siroedd a’r ardaloedd canlynol:
- Abertawe
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd a Phort Talbot
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen
Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i adael mwy o amser cyn gorfod teithio, a chymryd gofal wrth deithio ar ffyrdd rhewyllyd.