Newyddion S4C

Dedfrydu Stuart Hogg ar ôl iddo bledio'n euog i gamdriniaeth ddomestig

Stuart Hogg

Mae cyn gapten rygbi'r Alban Stuart Hogg wedi cael ei ddedfrydu ar ôl pledio'n euog i gamdriniaeth ddomestig.

Cafodd Hogg, sy'n 32 oed, ei ddedfrydu i orchymyn ad-dalu cymunedol gyda blwyddyn o oruchwyliaeth. 

Mae hefyd wedi derbyn gorchymyn pum mlynedd i beidio ag aflonyddu ei wraig.

Mae'r ddau wedi gwahanu ers tro.

Mae dedfryd gorchymyn ad-dalu cymunedol yn debyg i waith di-dâl ac yn cynnwys gweithgareddau fel cael gwared ar graffiti neu waith clirio.

Cafodd Hogg ei ddedfrydu yn Llys Siryf Selkirk ddydd Iau ar ôl iddo gyfaddef cam-drin ei wraig dros gyfnod o bum mlynedd.

Plediodd yn euog i un cyhuddiad o gamdriniaeth ddomestig o'i gyn bartner, Gillian Hogg ar 4 Tachwedd.

Roedd eisoes wedi ei wahardd rhag cysylltu gyda Mrs Hogg am bum mlynedd ar ôl iddo gyfaddef torri amodau mechnïaeth trwy gysylltu â hi dro ar ôl tro ym mis Mehefin, pan dderbyniodd hi 28 neges destun ganddo mewn un noson.

Fe wnaeth Hogg ymddeol o rygbi proffesiynol ym mis Gorffennaf 2023, ond yr haf diwethaf cyhoeddwyd ei fod yn dychwelyd i'r gamp ar ôl arwyddo i Montpellier ar gytundeb dwy flynedd.

Derbyniodd MBE am wasanaethau i’r gamp yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y llynedd.

Llun: Andrew Milligan/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.