Aberteifi: Cymeradwyo cynllun i wneud canolfan bywyd gwyllt 'yn fwy hygyrch'
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo cynllun i foderneiddio canolfan bywyd gwyllt ger Aberteifi er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch.
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yng Nghilgerran wedi cael caniatâd i addasu ei chanolfan ymwelwyr er mwyn "darparu mynediad i bawb".
Yn ôl y cynlluniau, bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu mynedfa gyhoeddus newydd a llwybr newydd i'r fynedfa.
Bydd y ganolfan hefyd yn gwella hygyrchedd ei maes parcio drwy addasu ei lleoedd parcio ar gyfer pobl anabl, meddai'r cynlluniau.
Mewn datganiad, dywedodd Childs Sulzmann Architects: "Cafodd y ganolfan ymwelwyr ei hadeiladu yn y 1990au gyda chynllun sydd wedi ennill gwobrau.
"Ond mae defnyddioldeb yr adeilad a rhai elfennau o'i gyflwr wedi gwaethygu dros y blynyddoedd, ac mae bellach angen ei foderneiddio.
"Yn benodol, mae mynediad i’r ganolfan ymwelwyr yn ddryslyd ac yn aneglur."
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn croesawu 70,000 o ymwelwyr y flwyddyn ar gyfartaledd.
Dywedodd y datganiad: "Bydd y cyfleuster lleol pwysig hwn a’r atyniad ymwelwyr yn cael eu gwella trwy ddarparu mynedfa glir a darllenadwy i’r adeilad.
"Bydd hefyd mannau parcio hygyrch a lifft i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn a phobl anabl gael mynediad uniongyrchol i'r fynedfa gyhoeddus newydd."
Ychwanegodd y datganiad y bydd gwelliannau pellach, gan gynnwys pont droed lletach rhwng y ganolfan ymwelwyr a'r maes parcio, yn "cyfrannu at yr egwyddorion hyrwyddo a darparu mynediad i bawb".
Daw'r caniatâd wedi i Gyngor Sir Benfro gymeradwyo cynllun ar gyfer ardal chwarae newydd yn y ganolfan.