Ergyd gan ddyn o Fangor wedi cael effaith ‘gatastroffig’ ar ddioddefwr
Mae barnwr wedi dweud heddiw bod ergyd gan ddyn o Fangor wedi cael effaith ‘gatastroffig’ ar ddioddefwr.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Samuel Lock wedi dioddef anafiadau gan gynnwys gwaedu ar yr ymennydd a phenglog wedi hollti ar ôl cwympo nôl a tharo’i ben ar y llawr.
Yn dilyn yr ergyd gan Lewis Revilles o Rodfa Greenwood, Bangor, dihunodd y dioddefwr mewn uned trawma difrifol yn Stoke-on-Trent.
Cafodd Lewis Revilles, sy'n 20 oed, a gyfaddefodd iddo achosi anafiadau corfforol difrifol, ei ddedfrydu i 18 mis o garchar, wedi’i ohirio am 18 mis, yn ogystal â chyrffyw chwe mis o hyd rhwng 9yh a 6yb.
Roedd clwb nos ym Mangor wedi gofyn i Mr Lock adael ac roedd wedi ymateb drwy ddadlau gyda’r swyddogion diogelwch. Dyma pryd y camodd Revilles i mewn, am ei fod yn nabod un ohonyn nhw, dywedodd y barnwr.
Cyfarfu’r ddau’n hwyrach wedyn. Cerddodd Mr Lock i ffwrdd, ond cafodd ei daro gan yr amddiffynnydd, dywedodd y barnwr.
Doedd gan y dioddefwr ddim unrhyw gof o’r hyn ddigwyddodd.
“Mae wedi colli’i swydd. Mae wedi wynebu problemau difrifol gyda’i iechyd meddwl. Mae wedi gorfod gadael yr ardal. Mae wedi colli ei glyw mewn un clust hefyd,” nododd y barnwr yr Ustud Nicola Jones.
Clywodd y llys i'r heddlu ddod o hyd i Revilles yn cuddio mewn llofft yn nhŷ ei fam-gu a’i dad-cu. Mae’r amddiffynnydd wedi edifarhau am yr hyn a wnaeth, ychwanegodd y barnwr Nicola Jones, wrth iddi ohirio’i ddedfryd.
Cafodd Mr Revilles hefyd ddedfryd o orchymyn ataliedig (restraining order) pum mlynedd o hyd i gadw draw o'r dioddefwr.