Cynnig i roi codiad cyflog o dros £4,000 y flwyddyn i Aelodau'r Senedd
Gallai Aelodau’r Senedd dderbyn codiad cyflog o £4,300 o fis Ebrill ymlaen.
Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi cyhoeddi cynllun i ddileu’r cap o 3% ar godiadau cyflog, gydag aelodau ar hyn o bryd yn ennill rhwng £72,057 a £157,624 yn ddibynnol ar rolau ychwanegol.
Dan gynnig newydd y bwrdd, sydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, mi fyddai tâl aelodau yn codi 6%, gyda’r cyflog sefydlog yn codi i £76,380 o fis Ebrill.
Mi fyddai’r Prif Weinidog Eluned Morgan yn derbyn bron i £10,000 yn ychwanegol pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, gyda’i chyflog yn codi i £167,081 y flwyddyn.
Mae cynnig hefyd i godi cyllideb staffio aelodau unigol hyd at £7,836 ychwanegol, i £138,438 y flwyddyn.
Bydd cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i bleidiau gwleidyddol ar gyfer staff hefyd yn codi 6% i £1.1 miliwn.
Mae hefyd cynnig i godi’r swm y gallai aelodau sy’n byw yn bell o Fae Caerdydd ei hawlio ar gyfer lety neu rent, hyd at 9.8% i bron i £13,000 y flwyddyn.
Yn ôl y Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, mae’r cynnydd o 6% i aelodau yn cyd-fynd â chodiadau mewn cyrff llywodraethol eraill yn y DU.
Dywedodd Cadeirydd y bwrdd, Dr Elizabeth Haywood: "Canolbwyntiodd adolygiad y Bwrdd ar ei amcanion a'i egwyddorion craidd i sicrhau bod Aelodau'n cael eu talu'n deg ac yn cael digon o adnoddau i'w cefnogi yn eu dyletswyddau, gan sicrhau hefyd bod penderfyniadau'n briodol o fewn amgylchiadau ariannol ehangach Cymru ac yn cynrychioli gwerth am arian.
“Edrychwn ymlaen at glywed barn pobl Cymru ar y cynigion hyn i’n helpu i lunio cynnig terfynol teg."
Y llynedd, derbyniodd aelodau Senedd yr Alban godiad o 6.7%, gydag Aelodau Seneddol yn San Steffan yn gweld cynnydd o 5.5% yn eu cyflogau.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan y Bwrdd Taliadau. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion ar 19 Chwefror am 17:00.