Newyddion S4C

Eira a rhew yn achosi trafferth ar y ffyrdd a chau degau o ysgolion

Ponterwyd

Mae rhai ysgolion yng Nghymru ar gau ddydd Iau o ganlyniad i'r tywydd gaeafol.

Mae dros 40 o ysgolion yn sir Conwy ar gau oherwydd yr amodau gaeafol, tra bod sawl ysgol hefyd ar gau yng Ngwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys a Sir Gâr.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r amodau gaeafol effeithio ar ffyrdd a gwasanaethau trên, a chynyddu’r risg o lithro ar arwynebau rhewllyd.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn adrodd bod ffordd yr A458 ger y Trallwng wedi ail-agor ar ôl cau oherwydd iâ, tra bod amodau "hynod o wael" hefyd wedi bod ar ffyrdd yn ardal Capel Bangor yng Ngheredigion.

Ddydd Gwener fe fydd ffordd yr A44 rhwng Ponterwyd/Nantyrarian ger Caffi Red Kite ar gau rhwng 09:00 a 13:00 er mwyn symud lori sydd wedi llithro i ffos ar ochr y ffordd bnawn dydd Iau.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod rhai rheilffyrdd ar gau ddydd Iau oherwydd difrod i gledrau yn dilyn cyfnod o "wynt cryf, glaw ac eira".

Bydd bysiau yn cael eu defnyddio yn lle trenau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog tan o leiaf ddydd Llun, meddai'r cwmni.

Cau ysgolion

Mae ysgolion ar gau mewn sawl sir ar draws Cymru yn sgil yr amodau gaeafol.

Conwy

Mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau na fydd 45 o ysgolion yn y sir yn agor ddydd Iau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma

Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod wyth o ysgolion ar gau oherwydd y tywydd garw. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma

Sir Gâr

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cadarnhau bod Ysgol Cross Hands ar gau ddydd Iau oherwydd nad yw'r gwres yn gweithio.

Sir y Fflint

Mae Cyngor Sir y Fflint bellach wedi cadarnhau bod 14 o ysgolion ar gau oherwydd yr amodau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma

Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau bod 19 o ysgolion ar gau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma

Powys

Ym Mhowys, mae Ysgol Llanbrynmair ac Ysgol Glantwymyn ar gau.

Ceredigion

Mae Ysgol Penllwyn, Capel Bangor yng Ngheredigion ar gau.

Rhybudd tywydd

Fe ddaeth y rhybudd melyn i rym ar gyfer siroedd yn y gogledd a'r gorllewin am 00.10 ac roedd yn parhau tan 11:00.

Roedd rhybudd am rew hefyd mewn grym i siroedd Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd, Rondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Fe ddaeth y rhybudd hwnnw i rym am 00.15 ac fe ddaeth i ben am 10.30 fore Iau.

Llun: Traffig Cymru

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.