Cymru 'mewn perygl o gael ei gadael ar ôl' ym meysydd diwylliant a chwaraeon
Mae Cymru "mewn perygl o gael ei gadael ar ôl" ym meysydd diwylliant a chwaraeon oherwydd "degawd o doriadau," yn ôl rhai o aelodau'r Senedd.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon yn dweud mai Cymru yw un o'r gwledydd gwaethaf yn Ewrop o ran gwariant y pen ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, ac yn ail o’r gwaelod o ran gwasanaethau diwylliannol.
Gwlad Pwyl a Latfia oedd yr unig wledydd oedd wedi gwario llai 'na Chymru.
Mae cadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell AS yn dadlau bydd "llesiant cymunedau" Cymru mewn perygl os na fydd newidiadau.
“Ers yn rhy hir, mae diwylliant a chwaraeon wedi cael eu trin fel pethau ‘neis i’w cael’, gan wynebu gostyngiadau di-baid mewn cyllid sydd wedi gadael y sectorau hyn yn fregus a heb ddigon o adnoddau," meddai.
“Mae’r toriadau diweddar yng nghyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25, sy’n cael eu gwaethygu gan chwyddiant a chostau cynyddol, wedi cael effaith ddofn.
“Mae diwylliant a chwaraeon yn edafedd hanfodol yn y brethyn sy’n gwneud bywyd yn werth ei fyw: maen nhw’n cyfoethogi’r profiad dynol, ac yn fwy na dim ond moethusion i’w mwynhau mewn cyfnodau o ddigonedd.
“Heb newidiadau sylweddol, mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl o ran llwyddiant yn y meysydd diwylliant a chwaraeon, gan beryglu ein cymeriad cenedlaethol a llesiant ein cymunedau.”
Mae’r adroddiad yn galw am weithredu, ac am fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac yn tynnu sylw at "angen dybryd am strategaeth."
Mae rhai o'u hargymhellion yn cynnwys:
- Mwy o arian ar gyfer diwylliant a chwaraeon nes bod gwariant y pen yn cymharu â gwledydd tebyg.
- Datblygu strategaeth draws-adrannol gydweithredol ar gyfer ariannu diwylliant a chwaraeon, gan sicrhau y caiff y sectorau hyn eu cydnabod fel rhai allweddol i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried adroddiad y pwyllgor ac yn ymateb i'w argymhellion maes o law.
"Mae’r sector celfyddydau yn gwneud cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hanfodol i Gymru, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
"Fodd bynnag, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen yn dilyn blynyddoedd o setliadau ariannu anodd gan Lywodraeth y DU.
"Mae setliad diweddaraf Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfle i ni ddyrannu mwy o gyllid ar gyfer ein sefydliadau diwylliannol, celfyddydau a chwaraeon yng nghyllideb ddrafft 2025-26."
'Hanfodol'
Fe wnaeth y pwyllgor dderbyn tystiolaeth gan nifer o sefydliadau ledled Cymru, sydd wedi codi pryderon difrifol, meddai'r adroddiad.
Un o'r sefydliadau oedd Plant y Cymoedd, elusen sy'n darparu cefnogaeth, cyngor a chyfleoedd i bobl o bob oed yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Miranda Ballin o'r sefydliad, bod y celfyddydau yn hanfodol ym mywydau pobl.
“Mae Plant y Cymoedd yn gweithio ymhlith rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn Ewrop, sydd wedi dioddef gwaethaf o dan bwysau llymder, yr argyfwng costau byw a Brexit cyn hynny. I lawer o’n pobl ifanc ac oedolion hŷn mae’r celfyddydau yn hanfodol yn eu bywyd.
“Mae gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau yn effeithio ar ein hartistiaid lleol, ein cymuned lawrydd ac yn bennaf oll y bobl sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau - mae bod yn rhan o’r celfyddydau yn rhoi llais creadigol i bobl, ar adeg pan mae gwir angen amdano, ni allwn fforddio colli hynny nawr.”
Ychwanegodd Nia Wyn Evans o theatr gymunedol Arad Goch fod costau'n cynyddu wedi cael effaith sylweddol ar eu gallu i gynnig cyfleoedd.
“Gyda chostau popeth fel cyflogau, trydan, costau teithio a chostau byw yn cynyddu mor gyflym, a’r arian sy’n dod i mewn yn aros yr un fath neu’n lleihau – mae’n amhosib cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae rhywbeth yn gorfod cyfaddawdu," meddai.
“Ein prif nod fel cwmni ydi darparu theatr i gynifer o blant a phobl ifanc ag sy’n bosib – ond mae’r niferoedd hyn yn mynd i leihau oherwydd hyd ein teithiau a’n gallu i fynd i wahanol leoliadau.”