Dynes yn gorwedd yn farw mewn toiled bwyty am ddeuddydd cyn cael ei darganfod
08/01/2025Roedd dynes wedi bod yn gorwedd yn farw mewn toiled bwyty am ddau ddiwrnod cyn cael ei darganfod, yn ôl ei theulu.
Cafwyd hyd i Sabrina Lyttle, 47 oed, mewn ciwbicl ar ôl i’r heddlu gael eu galw i fwyty'r Gurkha yn Blackpool toc wedi 13.00 ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd.
Ers hynny, mae ei mam Catherine wedi honni bod ei merch wedi mynd i mewn i'r bwyty i ddefnyddio'r toiledau ddau ddiwrnod ynghynt.
Dywedodd fod cwsmeriaid wedi dweud nad oedden nhw'n gallu cael mynediad i un o'r ciwbiclau, ond ni ddaethpwyd o hyd i Sabrina tan 30 Tachwedd.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Catherine: "Fe aeth fy merch i mewn i’r eiddo ddydd Iau 28 Tachwedd i ddefnyddio’r toiled.
"Mae archwiliad post mortem yn cael ei gwblhau er mwyn dod o hyd i achos ei marwolaeth, ond ni chafodd ei chorff ei ddarganfod tan brynhawn Sadwrn."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerhirfryn: "Fe gawsom ein galw toc wedi 13.00 ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd yn dilyn adroddiad o farwolaeth sydyn mewn cyfeiriad ar Ffordd Waterloo yn Blackpool.
"Roedd swyddogion yn bresennol ac yn anffodus daethpwyd o hyd i gorff dynes yn ei 40au yn farw y tu mewn i'r adeilad.
"Mae ein meddyliau gyda'i hanwyliaid ar hyn o bryd."
Ychwanegodd yr heddlu nad yw marwolaeth Sabrina yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae disgwyl i gwest i'w marwolaeth gael ei gynnal yn Neuadd y Dref Blackpool ddydd Iau 3 Ebrill.
Mae Cyngor Blackpool wedi cadarnhau bod swyddogion o dîm diogelu'r cyhoedd wedi cael gwybod am farwolaeth Sabrina.
Mae'r tîm yn bwriadu siarad â rheolwyr bwyty'r Gurkha maes o law, meddai llefarydd ar ran y cyngor.
