Newyddion S4C

Duges Sussex wedi 'torri ei chalon' ar ôl i'w chi farw

Sussex

Mae Duges Sussex yn dweud ei bod wedi "torri ei chalon" ar ôl i'w chi, Guy, farw.

Mewn neges ar Instagram fe ddywedodd Meghan ei bod wedi "crio gormod o ddagrau" dros Guy a'i fod wedi "llenwi ei bywyd mewn ffyrdd wnei di byth wybod".

Fe wnaeth y Dduges fabwysiadau'r ci o ganolfan achub yng Nghanada yn 2015.

Dywedodd yn y neges bod y ci wedi bod "gyda hi trwy bopeth" ers iddi ei fabwysiadu.

"Dwi wedi crio gormod o ddagrau i gyfri - y math o ddagrau sydd yn gwneud i chi fynd i'r gawod gyda'r gobaith hurt y bydd y dŵr ar eich wyneb rhywsut yn gwneud i chi beidio eu teimlo nhw neu esgus nad ydyn nhw yno. Ond maen nhw yno. Ac mae hynny yn oce," meddai.

Does dim manylion am sut y buodd y ci farw na phryd. 
 

Llun: Cyfrif Instagram Duges Sussex 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.