Cyhoeddi stad o argyfwng yn Los Angeles yn sgil tanau gwyllt
Cyhoeddi stad o argyfwng yn Los Angeles yn sgil tanau gwyllt
Mae stad o argyfwng wedi’i gyhoeddi yn Los Angeles yng Nghaliffornia wrth i 30,000 o bobl orfod gadael eu cartrefi oherwydd tanau gwyllt.
Mae miloedd o gartrefi dan fygythiad yn yr ardal rhwng Santa Monica a Malibu.
Yn ôl y gwasanaeth tân yno, mae’r bobl sy’n gwrthod gadael yn peryglu bywydau pawb wrth i wyntoedd o 100 mya amgylchynu’r fflamau.
Nid oes unrhyw anafiadau wedi cael eu hadrodd.
Llun gan Wochit.