Ysgol ym Mhwllheli yn annog pobl i ddiogelu'r blaned ar ôl ennill gwobr gan y Prif Weinidog
07/01/2025
Ysgol ym Mhwllheli yn annog pobl i ddiogelu'r blaned ar ôl ennill gwobr gan y Prif Weinidog
"Be sy'n digwydd ŵan?"
"'Dan ni'n mynd i jecio'r tymheredd."
"Be dach chi'n meddwl fydd o?"
"Dw i'm yn siwr."
Cofnodi'r tywydd ym Mhentreuchaf.
"Heulog iawn, eithaf heulog, cymylog."
Mae'r criw yma o Ben Llŷn yn gwneud gwaith pwysig.
"Beth yw'r tymheredd mewn graddau celsius?"
"Chwech."
O drefnu diwrnodau di-drydan i blannu coed a chofnodi'r tywydd.
Mae Cyngor Eco Ysgol Pentreuchaf wedi bod yn brysur tu hwnt.
"Faint mae hi 'di bod yn bwrw glaw?
"Mae'n bwrw glaw dros nos neu'n y bore ac mae hwn yn casglu'r glaw.
"'Dan ni'n gweld faint mae hi 'di bwrw mewn millimetres.
"Mae 'na 1mm heddiw 'ma."
Gyda chynhesu byd-eang yn broblem fawr heddiw mae'r Cyngor Eco eisiau i bawb wneud eu rhan i achub y blaned.
"Fel Cyngor Eco dan ni 'di bod yn neud ailgylchu, dwr, ynni a tir i'r ysgol."
Diolch i'w gwaith caled, maen nhw 'di ennill gwobr arbennig iawn.
Gwobr gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan.
"Gwobr gafon ni o Gaerdydd, nathon ni neud lot o betha eco-gyfeillgar.
"Oeddan ni'n gorfod codi'n y bore a mynd i Gaerdydd ar y trên."
Lle aethoch chi i gael y wobr?
"I'r Senedd."
Maen nhw hyd yn oed wedi creu meinciau allan o boteli wedi'u hailgylchu.
"Dydyn nhw'm yn rubbish wedyn.
"'Sa ni'n gadael nhw'n rhywle basen nhw'n fflio i'r mor a pethe.
"Jyst ailgylchu fel 'ma yn handi weithia."
Edrych ar ôl yr amgylchedd a gosod esiampl i eraill.
# Ysgol eco yw ein hysgol ni,
dangoswn barch i'r amgylchedd #
Ydy, mae neges Ysgol Pentreuchaf yn glir.