Newyddion S4C

Cymdeithas yr Iaith yn galw am weithredu er mwyn cyrraedd targed 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

07/01/2025

Cymdeithas yr Iaith yn galw am weithredu er mwyn cyrraedd targed 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Blwyddyn newydd ac roedd gan Gymdeithas yr Iaith gerdyn Calan i'r Prif Weinidog.
 
Chafodd y drws yn Hwlffordd ddim ei agor ond roedd modd gadael y cerdyn, a'r neges yno.
 
"Yn 2016, wnaeth y Llywodraeth osod targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
 
"Mae'n 2025 nawr felly 25 mlynedd sydd ar ôl i gyrraedd y targed.
 
"Ni, fel Gymdeithas, ddim yn teimlo bod y Llywodraeth yn wneud digon.
 
"Mae gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Cyfrifiad diwethaf.
 
"Ni yma yn galw ar y Llywodraeth i ddweud bod amser yn brin ond dyw hi ddim yn rhy hwyr."
 
Mae gan y Gymdeithas nifer o ofynion fel rhoi addysg Gymraeg i bawb.
 
Maen nhw am weld darlledu'n cael ei ddatganoli a sefydlu corff i baratoi at hynny.
 
Parhau mae'r alwad am ddeddf eiddo i bobl gael cartref yn eu cymunedau.
 
Ai cyrraedd miliwn o siaradwyr y ddylai cael y prif sylw?
 
Mae gan un o gyn-benaethiaid Bwrdd yr Iaith amheuon am hynny.
 
"Byddwn ni'n dadlau erbyn hyn mae dyna'r targed anghywir.
 
"I lwyddo, dylwn ni cael 500,000 yn siarad Cymraeg yn ddyddiol.
 
"Dyna fyddai'n sicrhau fod y Gymraeg yn hyfyw ar gyfer y dyfodol a bod bwrlwm a chreadigrwydd.
 
"Yr elfennau sy'n gwneud i ieithoedd oroesi a rhaid cael hynny."
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi'u hymrwymo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a'u bod yn deddfu ym myd addysg i ddatblygu sgiliau iaith pob disgybl.
 
Mae modd i bobl ifanc a staff ysgol gael gwersi Cymraeg am ddim.
 
Bydd y Llywodraeth yn cynnal y cymunedau Cymraeg a datblygu technoleg iaith.
 
"Ni ddim eisiau cyrraedd y miliwn ond eisiau mynd tu hwnt i hwnna.
 
"Ni eisiau cymunedau Cymraeg, cynaliadwy ar draws Cymru.
 
"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr yn gallu bod yn rhan o hwnna."
 
Roedd cerdyn y Prif Weinidog yn aros amdani a fydd modd cyrraedd miliwn mewn chwarter canrif?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.