Newyddion S4C

Nifer y plant sy'n 'mwynhau' darllen ar ei lefel isaf

07/01/2025

Nifer y plant sy'n 'mwynhau' darllen ar ei lefel isaf

Sesiwn ddarllen yn Ysgol Bro Sion Cwilt yn Synod Inn.
 
"Cyfrinachol yw hi."
 
Mae brwdfrydedd yma ond pa mor aml mae'r criw yn troi at eu llyfrau?
 
"Amser mae Mam a Dad yn gofyn i fi darllen."
 
"Cwpl o ddiwrnodau'r wythnos os bydd digon o amser."
 
"Fi'n credu fi'n darllen pob dydd yn yr ysgol."
 
"Da iawn, darllen gwych."
 
Yn 2024, roedd canran y plant oedd yn mwynhau darllen ar ei lefel isaf.
 
A hynny, ers i'r Ymddiriedolaeth Ddarllen Genedlaethol ddechrau'r gwaith ymchwil 20 mlynedd yn ôl.
 
Un o bob tri rhwng wyth a 18 oed yn mwynhau darllen yn ei amser hamdden.
 
Cwymp o bron 9% ers ffigyrau'r flwyddyn gynt ond pam?
 
"So'n nhw'n hoffi'r llyfr."
 
"Byddai well 'da fi ffarmo neu helpu Mam a Dad i wneud pethau eraill."
 
"Dw i'n ymwybodol bod llai o blant yn darllen achos mae llai yn prynu.
 
Dyw un o awduron amlyca' Cymru'n synnu dim mae un ymhob pump dywedodd bod nhw'n darllen yn ddyddiol yn eu hamser eu hunain.
 
"Mae pres yn brin.
 
"'Sa'n neis tase rywun yn buddsoddi mewn criw o bobl greadigol i ddod at ei gilydd i greu syniadau sut i gael bobl ifanc a phlant yn mwynhau darllen eto.
 
"Hefyd, gofyn i'r plant achos nhw sy'n gwybod."
 
Wyt ti'n meddwl bod e'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn darllen?
 
"Ydw."
 
Beth yw manteision darllen?
 
"Ti'n dysgu geiriau newydd a sut i ysgrifennu geiriau anodd."
 
"Dw i'n caru darllen achos mae'n gwneud fi'n hapus."
 
"Dw i'n gallu dysgu am storiau diddorol a dysgu geiriau newydd."
 
"Wrth ddatblygu sgiliau darllen, mae'r sillafu'n gwella ac o ran sgiliau ysgrifenedig, mae'r plant yn fwy creadigol.
 
"Maen nhw'n dysgu geiriau newydd sy'n help mewn amryw o sgiliau."
 
Ydy'r adnoddau yn ddigonol i ni yn y Gymraeg?
 
"Dw i'n meddwl bod y cyfresi Saesneg yn denu mwy o blant i ddarllen ond mae adnoddau Cymraeg yn datblygu.
 
"Ni ar ei hôl hi ychydig bach o ran y Gymraeg."
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg wedi cyflwyno cefnogaeth ychwanegol amrywiol i ysgolion gan gynnwys mwy o gyllid i gefnogi cynlluniau llwyddiannus ond mae teimlad bod angen hyrwyddo'r cynnyrch sydd eisoes yno.
 
"Mae bob math o lyfrau i bawb ond dyw pobl ddim yn clywed amdanyn nhw.
 
"Os y'ch chi'n sownd yn eich TikToks ni angen sylw i lyfrau Cymraeg ar TikTok a sdim digon o hynny'n digwydd."
 
"Da iawn, dw i'n prowd bod ti wedi dewis hwnna."
 
Prin yw'r rheiny fyddai'n dadlau bod darllen yn bwysig.
 
Cael pobl ifanc i wneud hynny o'u gwirfodd yw'r her.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.