Hatric o ohiriadau i gêm Bala v Caernarfon
Mae'r gêm rhwng Y Bala a Chaernarfon yn y JD Cymru Premier wedi'i gohirio am y trydydd tro o fewn 10 diwrnod.
Ar ôl cael ei gohirio ar ddyddiad gwreiddiol y gêm, sef 31 Rhagfyr, cafodd y gêm ei gohirio unwaith eto ar 3 Ionawr oherwydd bod y cae ym Maes Tegid wedi rhewi.
Cafodd y gêm ddarbi ei hail-drefnu ar gyfer nos Fawrth 7 Ionawr - ond ar ôl i'r tymheredd ostwng unwaith eto, mae'r gêm wedi'i gohirio am y trydydd tro mewn 10 diwrnod, oherwydd bod y cae wedi rhewi.
Mae'r gêm bellach wedi ei hail-drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 11 Ionawr am 12.45 - ac y bydd yn cael ei dangos yn fyw gan Sgorio.
Mae'r ail-drefnu wedi cael sgil effeithiau ar weddill gemau'r penwythnos, a hynny ar gyfnod tyngedfennol yn y Cymru Premier.
Yn wreiddiol, roedd dydd Sadwrn 11 Ionawr wedi ei neilltuo ar gyfer y gemau olaf cyn hollt y gynghrair.
Roedd hyn yn golygu fod pob tîm yn chwarae'r un pryd, fel nad oedd unrhyw dîm yn derbyn mantais o wybod beth oeddent eu hangen er mwyn cyrraedd safle penodol.
Ond gan fod y gêm rhwng Bala v Caernarfon wedi ei wthio i'r penwythnos hwn, mae'n golygu bydd pedwar gêm oedd wedi'u trefnu ar gyfer ddydd Sadwrn, bellach yn cael eu chwarae nos Fawrth 14 Ionawr.
Y Barri v Hwlffordd
Caernarfon v Y Fflint
Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd
Cei Connah v Y Bala