ASau i holi arbenigwyr ar effaith cau Porthladd Caergybi
Bydd aelodau seneddol ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn craffu ar ganlyniadau economaidd cau porthladd Caergybi am chwe wythnos o ganlyniad i Storm Darragh yn ddiweddarach.
Fe fydd yr aelodau hefyd yn ystyried pwysigrwydd strategol y porthladd fel cyswllt masnach hanfodol rhwng Cymru, Gweriniaeth Iwerddon, a Gogledd Iwerddon.
Ymysg y rhai fydd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor bydd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor, Ian Davies o Stena Line, a Howard Browes, Cadeirydd Bwrdd Fforwm Busnes Cybi.
Wrth siarad cyn y sesiwn, dywedodd Llinos Medi, aelod seneddol Ynys Môn ac aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig:
“Mae Caergybi yn borthladd hollbwysig ar gyfer masnach rhwng y DU ac Iwerddon, sy’n cynnal miloedd o swyddi yn yr ardal.
"Cafodd y difrod a achoswyd gan Storm Darragh a chau'r porthladd wedyn effaith ddofn ar fusnesau lleol, trafnidiaeth nwyddau a swyddi. Yn anffodus, bu diffyg brys yn yr ymateb gan lywodraethau Cymru a’r DU."
Ychwanegodd ei bod yn awyddus i wneud yn siŵr bod y porthladd yn medru gwrthsefyll unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl allai ddigwydd yn y dyfodol a sicrhau bod yna help ar gael i fusnesau'r ardal.
"Byddaf yn pwyso am atebion ar barodrwydd y porthladd ar gyfer tywydd garw, hyd y cau, a sut y gallwn ddiogelu dyfodol Caergybi fel porthladd allweddol i fasnach Ewropeaidd," meddai.