Donald Trump eisiau i America 'gymryd drosodd' Gaza
Mae Donald Trump wedi dweud y gallai'r Unol Daleithiau "gymryd drosodd" Gaza wrth siarad mewn cynhadledd newyddion gyda Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, yn y Tŷ Gwyn.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y byddai'r wlad yn datblygu'r diriogaeth yn economaidd i fod yn "Riviera y Dwyrain Canol".
Mae'n dweud hefyd y dylai Palestiniaid gael eu hailsefydlu y tu allan i Gaza tra byddai'n cael ei ailadeiladu.
Yn ôl yr Arlywydd Trump, dylai Palestiniaid symud oherwydd "nid yw’r peth Gaza wedi gweithio".
"Rwy'n credu y dylen nhw gael darn o dir da, ffres, hardd, ac rydyn ni'n cael rhai pobl i godi'r arian i'w adeiladu a'i wneud yn braf, addas a phleserus," meddai.
"Rwy’n meddwl y byddai hynny’n llawer gwell na mynd yn ôl i Gaza, sydd wedi cael dim ond degawdau a degawdau o farwolaeth."
Fe awgrymodd yr Arlywydd Trump y gallai’r "darn o dir" hynny fod yn yr Aifft neu Wlad yr Iorddonen.
'Ein mamwlad yw ein mamwlad'
Ond mae gwledydd ledled y Dwyrain Canol eisoes wedi gwrthod y cynnig hwn, gan rybuddio y byddai'n ansefydlogi'r rhanbarth.
Dywedodd Netanyahu fod y cynllun yn syniad "gwerth talu sylw iddo".
Yn ôl Riyad Mansour, llysgennad Palestina i’r Cenhedloedd Unedig, mae ei bobl eisiau dychwelyd i’w cartrefi yn Gaza.
"Ein mamwlad yw ein mamwlad... maen nhw eisiau ailadeiladu Gaza, yr ysgolion, yr ysbytai, yr isadeiledd oherwydd dyma lle maen nhw'n perthyn ac maen nhw wrth eu bodd yn byw yno," meddai mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.
"A dw i'n meddwl y dylai arweinwyr barchu dymuniadau pobl Palestina."
Mae Hamas hefyd wedi beirniadu'r cynllun, gan ei alw'n "hurt".