Newyddion S4C

'Moment hanesyddol': Dod â therfyn amser derbyn iawndal i ddioddefwyr camdriniaeth i ben

Llun stoc o gamdriniaeth plentyn

Fe fydd dioddefwyr camdriniaeth yn gallu dwyn achos iawndal pan maen nhw'n barod i wneud hynny, yn hytrach nag o fewn cyfnod o dair blynedd yn unig, dan gynlluniau newydd.

Ar hyn o bryd mae rhaid i unigolion sydd wedi dioddef anafiadau neu gamdriniaeth rywiol ac eisiau dwyn achos o iawndal wneud hynny o fewn cyfnod o dair blynedd.

Ond fe fydd y terfyn amser hwnnw yn dod i ben. 

Yn ôl y Swyddfa Gartref fe fydd ymddiheuriadau gan sefydliadau yn dod yn fwy hawdd.

Dywedodd Llywodraeth y DU ddydd Mercher y bydd y camau diweddaraf yn sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu blaenoriaethu.

Bydd cyflogwyr hefyd yn cael eu hannog i ymddiheuro i bobl. Bydd rhaid i'r ymddiheuriad hynny fod yn “wirioneddol ac ystyrlon” i'r unigolyn ac os ydyn nhw'n dymuno, wyneb yn wyneb.

Ychwanegodd y Swyddfa Gartref y bydd dioddefwyr yn fwy tebygol o dderbyn ymddiheuriadau gan ysgolion, cyfleusterau gofal neu ysbytai am gamdriniaeth gan un o'u gweithwyr.

'Hanesyddol'

Daw'r newidiadau wedi dros 20 argymhelliad o adroddiad Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol a gafodd ei gwblhau yn 2022.

Mae disgwyl i'r newidiadau fod yn rhan o ddeddf newydd a fydd yn cael ei chyflwyno yn San Steffan y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Gabrielle Shaw, Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Pobl sy'n cael eu Cam-drin yn ystod Plentyndod (NAPAC) fod y newidiadau yn rhai hanesyddol.

"Mae'r newidiadau yn cydnabod effaith hirdymor trawma. Mae'n sicrhau nad yw'r rhai sy'n goroesi yn cael eu heithrio rhag cael yr hyn maen nhw'n ei haeddu, a hynny oherwydd yr amser maen nhw'n cymryd i siarad am yr hyn maen nhw wedi ei ddioddef.

"Rydym ni hefyd yn croesawu mwy o eglurder gydag ymddiheuriadau. Mae ymddiheuriad diffuant sy'n cael ei gefnogi gan weithredoedd werth y byd - yn enwedig fel rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau cyfrifoldeb ac atal niwed pellach.

"Mae hyn yn foment hanesyddol i'r rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol fel plant."

Amserlen

Mae Gweinidog Cartref Llywodraeth y DU Yvette Cooper eisoes wedi dweud y bydd amserlen yn cael ei osod er mwyn sicrhau bod argymhellion yr adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd Ebrill.

Cafodd hynny ei groesawu gan gyn-gadeirydd adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, Yr Athro Alexis Jay.

Mae wedi dweud bod angen cyflwyno'r newidiadau "mor gyflym â phosib."

Ychwanegodd fod "amser gwerthfawr wedi ei golli yn barod" ers i'r adroddiad cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2022, sydd wedi "achosi mwy o drawma i nifer o ddioddefwyr."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Shabana Mahmood bod y "mesurau hyn yn helpu goroeswyr i ddilyn eu llwybr i gyfiawnder."

"Maent yn adeiladu ar genhadaeth y Llywodraeth o haneru trais yn erbyn menywod a merched ac yn cefnogi ein Cynllun ar gyfer Newid.”

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Sarah Sackman: “Rhaid i’r llysoedd weithio i’r cyhoedd y maen nhw'n eu gwasanaethu, ac rydym yn cydnabod bod angen amser ar ddioddefwyr a goroeswyr i brosesu eu trawma.

“Drwy newid y gyfraith, fe fydd nawr yn bosib i ddioddefwyr siarad allan a cheisio ennill cyfiawnder pan fyddan nhw’n teimlo’n barod i wneud hynny.”

Dywedodd Llywodraeth y DU na fyddai'r ddeddfwriaeth ymddiheuriadau yn berthnasol i ymchwiliadau cyhoeddus nac achosion difenwi ('defamation') ac na fydd yn ôl-weithredol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.