Casgliad celf 'dau o hoff artistiaid Cymru' i'w gynnig mewn arwerthiant
Bydd casgliad celf personol y diweddar Gwilym Prichard a Claudia Williams yn cael ei werthu mewn arwerthiant yn ddiweddarach yn y mis.
Fe ddaeth gwaith y ddau artist, oedd yn ŵr a gwraig, i enwogrwydd yng Nghymru a thu hwnt wrth iddyn nhw dreulio cyfnodau'n byw yn eu mamwlad ac ar y cyfandir.
Yn ôl yr arwerthwr, Ben Rogers Jones o gwmni Rogers Jones & Co, fe fydd yn gyfle i weld casgliad personol iawn o baentiadau sy'n dogfennu dau fywyd artistig: “Mae lluniau gan ddau o hoff artistiaid Cymru wedi cael eu cadw gan y teulu hyd yn hyn oherwydd eu hoffter at bob enghraifft.
"Yn y pen draw, yn ymarferol, roedd gormod o luniau i'r teulu - cawsant eu storio o’r golwg am flynyddoedd oherwydd ei bod hi mor anodd weithiau i ollwng gafael. Rydym yn wirioneddol freintiedig,” meddai.
Bu farw Gwilym Prichard (g.1931) yn 2015 a Claudia Williams (g. 1933) yn 2024.
Fe ofynnwyd i Ben Rogers Jones brisio ystâd Claudia yn haf 2024. Wrth ymweld â’i chartref olaf yn Ninbych-y-pysgod fe ddaeth o hyd i dros 130 o baentiadau yn yr atig. Mae'r teulu wedi cadw rhai ond fe fydd y gweddill yn cael eu gwerthu.
“Rydym wedi trefnu’r catalog mewn trefn gronolegol, gan ddechrau yng ngogledd Cymru lle wnaeth y ddau gwrdd fel cwpl ifanc a dechrau eu taith artistig gyda’i gilydd.
"Yn dilyn, mae adran ar eu teithiau tramor - buont yn byw yng Ngwlad Groeg ac yn Ffrainc lle buont yn paentio'n doreithiog a sefydlu marchnad brynu yn Llydaw.
"Mae rhan olaf y catalog yn cynrychioli dod gartref i Gymru pan ymgartrefon nhw yn Ninbych-y-pysgod.”
O ran arddull, roedd y ddau'n artistiaid gwahanol iawn.
Mae gwaith Gwilym Prichard yn dirluniau mewn olew trwchus sy'n symleiddio'r tirwedd.
Roedd gwaith Claudia Williams ar y cyfan yn ffigurol ac yn canolbwyntio ar y teulu, yn aml yn gynnes o ran testun a lliw.
Bydd gwaith y ddau ar gael mewn arwerthiant ar 21 Chwefror.
Lluniau: Hawlfraint Rogers Jones & Co