Rhybudd melyn am rew yn y gogledd
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i’r gogledd allai arwain at oedi i drafnidiaeth.
Maen nhw’n annog unigolion i gynllunio o flaen llaw gan wirio amserlenni bysys a threnau os ydyn nhw yn bwriadu teithio.
Maen nhw’n dweud y dylai pobl hefyd gadw golwg ar yr amodau ar y ffyrdd.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai pobl ddioddef anafiadau pe bai nhw'n llithro ar balmentydd.
Y cyngor yw bod yn wyliadwrus ac i gerdded neu seiclo ar hyd y prif ffyrdd er mwyn ceisio osgoi’r rhew.
Bydd y rhybudd melyn am rew mewn grym tan 12.00 ddydd Mercher gan effeithio ar y siroedd canlynol:
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Wrecsam