Cymru ac Iwerddon am gydweithio i sicrhau bod porthladd Caergybi yn ‘gwrthsefyll heriau’ y dyfodol
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu tasglu a fydd yn gweithio â Gweinidog Trafnidiaeth Iwerddon i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Porthladd Caergybi.
Cafodd y porthladd ei gau ddechrau Rhagfyr oherwydd difrod wedi Storm Darragh.
Yn ôl cwmni Stena Line, sy’n gweithredu'r porthladd, bydd Terfynfa 5 yn ail agor ar Ionawr 16 os fydd "amodau'r tywydd yn rhesymol."
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, bod angen “ail-werthuso'r hyn sydd ei angen ar Gaergybi gan ei holl randdeiliaid dros y tymor hwy, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu”.
Bydd y grŵp yn gweithio gyda Gweinidog Gwladol Iwerddon dros Drafnidiaeth, James Lawless, Llywodraeth y DU ac unigolion eraill ym mhorthladdoedd a diwydiant fferi Cymru ac Iwerddon.
Dywedodd Ken Skates bod effeithiau cau’r porthladd yn “sylweddol iawn”.
"Rydym wedi cydnabod arwyddocâd strategol Caergybi erioed, trwy ein cefnogaeth i Borthladd Rhydd Ynys Môn a'n cefnogaeth i sicrhau y gellir cynnal morglawdd y porthladd fel bod modd defnyddio'r porthladd am ddegawdau lawer i ddod,” meddai.
“Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y sicrwydd diweddar gan Stena Ports eu bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddyfodol hirdymor Caergybi.
"Rwyf am i'r tasglu rwy'n ei gyhoeddi heddiw ystyried gwytnwch cysylltedd môr rhwng Cymru ac Iwerddon yn fwy cyffredinol, fel y gall y cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol hyn wrthsefyll yr heriau a ddisgwylir gennym yn well o ganlyniad i newidiadau sy'n cael eu gyrru gan yr hinsawdd ym mhatrymau tywydd garw a pheryglon a bygythiadau eraill.
“Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel y gallwn sicrhau dyfodol llwyddiannus i Borthladd Caergybi."
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi manylion pellach am y tasglu hwn yn fuan, meddai.
Llun: Chris Willz.