Newyddion S4C

Heddlu'n rhyddhau fideo o ymosodiad ar berchennog siop yng Nghasnewydd

Heddlu'n rhyddhau fideo o ymosodiad ar berchennog siop yng Nghasnewydd

Mae'r heddlu wedi rhyddhau fideo o ymosodiad ar berchennog siop mewn lladrad yng Nghasnewydd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn siop ar Ffordd Caerllion yn y ddinas toc wedi 21.40 ddydd Llun 9 Rhagfyr.

Dywedodd Heddlu Gwent fod dau berson anhysbys wedi mynd i mewn i'r adeilad gydag arf cyn cymryd til y siop.

Fe wnaethon nhw adael yr ardal mewn car sy'n debygol o fod yn Vauxhall Corsa du, meddai'r heddlu.

Mae swyddogion yn gweithio i adnabod y ddau berson ac wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod wynebau’r troseddwyr wedi’u gorchuddio ond "efallai y bydd rhywun yn adnabod eu dillad".

"Os ydych chi’n adnabod y bobl hyn, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400407484," medden nhw.

"Gallwch gysylltu â ni drwy’r wefan, drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.