Carchar i ddyn am achosi marwolaeth 'tad anhygoel' mewn gwrthdrawiad
Mae dyn o Gaerffili oedd wedi’i atal rhag gyrru wedi’i garcharu am chwe blynedd yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn 2020.
Roedd Jason Bradford, 34 oed, wedi treulio’r noson yn yfed alcohol mewn tafarn leol gyda’i ddau gyfaill cyn iddo benderfynu gyrru ef a’i ffrindiau adref ar 14 Tachwedd 2020.
Fe wnaeth Mr Bradford golli rheolaeth o’i gar yn ddiweddarach gan wrthdaro gyda physt concrit ar ochr y ffordd.
Bu farw Callum West, 27 oed, oedd yn teithio yn y cerbyd yn y fan a’r lle.
Roedd yn “dad anhygoel” i’w ferch Jessica, oedd yn 6 oed ar y pryd, medd ei deulu mewn datganiad yn Llys y Goron Caerdydd.
“Am dros bedair blynedd mae Bradford wedi cael byw ei fywyd yn rhydd.
"Honnodd nad oedd yn ffit i ymddangos gerbron y llys ond roedd yn ddigon ffit i briodi dim ond ychydig fisoedd ar ôl y gwrthdrawiad, gan fyw'r bywyd na chafodd Callum y cyfle i fyw,” medden nhw.
Mae Mr Bradford bellach wedi’i garcharu am chwe blynedd a saith mis ar ôl pledio’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi marwolaeth ar ôl cael ei atal rhag gyrru ac achosi anafiadau difrifol dra ei fod wedi’i atal rhag gyrru ddydd Mawrth.
'Symud ymlaen'
Roedd dyn arall oedd yn teithio yn y car hefyd wedi’i gludo i’r ysbyty ar y pryd. Mae’n parhau i fyw gydag anafiadau sydd yn effeithio ei fywyd hyd heddiw.
Dywedodd ei deulu eu bod nhw'n “falch” bod yr achos llys wedi dod i ben.
“Fe allwn ni ddechrau ceisio symud ymlaen a gwella,” medden nhw.
Dywedodd David Thomas o uned arbenigol gwrthdrawiadau’r ffyrdd Heddlu Gwent: “Roedd modd osgoi marwolaeth Callum yn ogystal ag anafiadau difrifol y teithiwr arall.
“Ni fydd unrhyw ddedfryd byth yn gwneud yn iawn am yr hyn ddigwyddodd o ran colli rhywun annwyl, neu’r anafiadau a ddioddefodd y person arall.”
Mae Jason Bradford hefyd wedi’i atal rhag gyrru am 10 mlynedd.
Llun: Jason Bradford (chwith), Callum West (de) (Heddlu Gwent)