Achub merlen o nant yn Sir Benfro
07/01/2025
Mae swyddogion o’r gwasanaeth tân wedi achub merlen aeth yn sownd mewn nant yn Sir Benfro.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i ddigwyddiad ym Mhont Myrddin yn Hwlffordd am tua 14:05 ddydd Llun.
Roedd y ferlen math Shetland wedi mynd yn sownd yn y nant ac roedd ei choesau dan ddŵr.
Roedd yn rhaid i’r frigâd tân ymateb fel mater o frys, medden nhw, yn sgil y tymheredd oer.
Doedd y ferlen ddim yn debygol o oroesi pe nai bai iddyn nhw wedi ei hachub, ychwanegodd.
Gyda chymorth swyddogion y RSPCA fe gafodd yr anifail ei dychwelyd adref i’w pherchnogion yn ddiweddarach.