Y gwleidydd asgell dde Jean-Marie Le Pen wedi marw yn 96 oed
Mae’r gwleidydd asgell dde eithafol o Ffrainc, Jean-Marie Le Pen, wedi marw yn 96 oed, yn ôl datganiad teuluol a rannwyd gydag asiantaeth newyddion AFP.
Bu farw Le Pen, a oedd wedi bod mewn cartref gofal ers sawl wythnos, am hanner dydd ddydd Mawrth “wedi’i amgylchynu gan ei anwyliaid”, meddai’r teulu.
Sefydlodd Le Pen blaid y dde eithafol y Ffrynt Cenedlaethol yn Ffrainc ym 1972.
Roedd wedi herio Jacques Chirac yn yr etholiad arlywyddol yn 2002.
Fe gymerodd merch Le Pen, Marine, yr awenau fel pennaeth y blaid yn 2011.
Ers hynny mae hi wedi ail-frandio’r blaid fel Rassemblement National, gan ei throi’n un o brif rymoedd gwleidyddol Ffrainc.
Am sawl degawd, Le Pen oedd ffigwr gwleidyddol mwyaf dadleuol Ffrainc, yn gwadu'r Holocost ac yn eithafwr diedifar ar hil, rhyw a mewnfudo.
Roedd ei feirniaid yn ei ddisgrifio fel dyn culfarn asgell dde eithafol a'r llysoedd yn ei euogfarnu sawl gwaith am ei sylwadau radicalaidd.
Yn 2015, cafodd ei ddiarddel o’r Rassemblement National ar ôl iddo ailadrodd ei fod yn gwadu’r Holocost.
Daeth hyn yn ystod ffrae gyhoeddus gyda’i ferch, a’i cyhuddodd o ailadrodd ei fod yn gwadu’r Holocost i geisio “achub ei hun rhag ebargofiant”.