Newyddion S4C

'Y ferch fwyaf annwyl': Teyrnged teulu i faban chwe mis oed fu farw wedi gwrthdrawiad

Sophia Kelemen

Mae teulu baban chwe mis oed wnaeth farw wedi gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Sophia Keleman o'i hanafiadau yn yr ysbyty ar 3 Ionawr, ddiwrnod wedi'r gwrthdrawiad ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.

Roedd Sophia, ei rhieni Alex a Betty a'i brawd pump oed ar eu gwyliau yn ne Cymru o Leigh, yn ardal Manceinion.

Dywedodd ei modryb, Adriana Kelemen sy'n chwaer i dad Sophia, ei bod yn faban "annwyl" a "chwareus."

"Roeddem gyda'n gilydd dros y Nadolig. Prin iawn y byddai Sophia'n crio. Roedd hi mor hapus ac yn gwenu trwy'r amser," meddai wrth The Manchester Evening News.

"Roedd hi'n awyddus i gerdded, ac yn gyffrous, chwareus ac egnïol. Hi oedd y ferch fwyaf ciwt ac annwyl. Mae'n erchyll nad oeddwn wedi cael cyfle i'w gweld yn tyfu fyny a chreu atgofion gyda hi."

'Trasig'

Ychwanegodd fod Sophia wedi dioddef gwaedu ar yr ymennydd ac wedi derbyn diagnosis o niwed i'r ymennydd (brain damage).

Mae Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, a gyrru heb yswiriant na thrwydded, ar ôl iddo gael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad.

Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar ddydd Sadwrn 4 Ionawr.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys bod teulu’r plentyn yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda’i theulu ar yr adeg anodd hon," meddai.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac yn ymchwiliad byw. Gofynnwn i chi beidio â dyfalu ynglŷn â’r amgylchiadau.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.