Newyddion S4C

Wrecsam: Apêl am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddyn a dau blentyn mewn gêm bêl-droed

07/01/2025
Heol Whitegate

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddyn a dau blentyn mewn gêm bêl-droed yn Wrecsam.

Digwyddodd yr ymosodiad mewn gêm rhwng tîm bechgyn Parc Caia a thîm dan 16 oed Dreigiau Glannau Dyfrdwy mewn cae ar Heol Whitegate ar 26 Hydref.

Ymosododd dyn ar ddau o blant o dîm Parc Caia a dyn arall, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r heddlu ar ddeall fod yr unigolyn dan amheuaeth wedi bod yn bresennol yn y gêm gyda chwaraewr o dîm Glannau Dyfrdwy.

Dywedodd PC Connor Davies: “Rwy’n gofyn ar unrhyw un a welodd y digwyddiadau hyn, neu unrhyw un sydd â thystiolaeth fideo neu luniau o’r digwyddiadau hyn i gysylltu â ni.”

Mae modd cysylltu â’r llu drwy ffonio 101 neu ar eu gwefan, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 24000916318.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.