Y gwaith o drawsnewid hen siop yn Abertawe i ganolfan y celfyddydau yn dechrau
Mae'r gwaith o drawsnewid hen siop yn Abertawe yn ganolfan gelfyddydau wedi dechrau.
Mae adeilad JT Morgan yn y ddinas wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac roedd contractwyr i fod i gyrraedd y safle yr wythnos hon, meddai’r dyn y tu ôl i’r cynllun.
Dywedodd Dan Staveley, sylfaenydd a chyfarwyddwr oriel a stiwdios Elysium, sy'n rhedeg pedwar adeilad arall yn y ddinas, y byddai cam cyntaf y cynllun yn cynnwys to newydd, lifft, mynedfa hygyrch a chreu 63 o stiwdios i artistiaid ar y llawr cyntaf a'r ail lawr.
Dywedodd Mr Staveley fod £1.8 miliwn ar gyfer cam un y cynllun wedi’i sicrhau drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin – cronfa o arian Llywodraeth y DU - arian gan y Cyngor Celfyddydau, grant gan Lywodraeth Cymru, a chynnig cyfranddaliadau cymunedol.
“Mae’n hynod gyffrous – mae wedi cymryd tair blynedd i ni gyrraedd y pwynt hwn, a bydd yn ein helpu i gynnal ein busnes,” meddai Mr Staveley.
Yn amodol ar gyllid, bydd yr ail gam yn cynnwys oriel ar y llawr gwaelod a chanolfan addysg, caffi, ystafell digwyddiadau ac ystafell dawel.
Wrth siarad ym mis Chwefror y llynedd dywedodd Mr Staveley fod mwy na 100 o artistiaid, darlunwyr, cerflunwyr, dylunwyr, gwneuthurwyr printiau a ffotograffwyr yn rhentu gofod gydag Elysium a bod angen adeiladau mwy.
Caeodd siop JT Morgan ei drysau yn 2008.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth gyda Chyngor Abertawe: “Mae hen adeilad JT Morgan wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer, felly rydym yn falch iawn o gefnogi Oriel Elysium gyda’u cynlluniau i ddod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd.
"Bydd eu cynlluniau cyffrous yn helpu i roi hwb pellach i gelfyddyd a diwylliant yng nghanol y ddinas, tra hefyd yn creu mwy o ymwelwyr er budd busnesau presennol canol y ddinas a helpu i ddenu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.”