Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion
Mae gyrrwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion brynhawn dydd Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a lori HGV ar yr A44 rhwng Capel Bangor a Goginan am tua 15:15.
Mae'n debyg bod y beic modur yn teithio i gyfeiriad y dwyrain gyda dau feic modur arall, yn ôl yr heddlu.
Bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar yr adeg sydd â lluniau dashcam ei adrodd i Heddlu Dyfed-Powys, naill ai ar-lein ar https://bit.ly/DPPContactOnline, trwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu trwy ffonio 101."
Llun: Google