Gwyliwch: Llysgennad Japan i'r DU yn dysgu Hen Wlad fy Nhadau
Gwyliwch: Llysgennad Japan i'r DU yn dysgu Hen Wlad fy Nhadau
Mae llysgennad Japan i'r DU wedi dysgu Hen Wlad fy Nhadau cyn teithio i Gymru.
Mewn fideo ar ei gyfrif X (Twitter gynt), fe wnaeth Hiroshi Suzuki ganu anthem genedlaethol Cymru wrth afael mewn baneri Cymru a Japan a thegan draig goch.
Dywedodd ei fod wedi bod yn ymarfer "canu'r gân roedd pobl o Japan yn canu i dîm rygbi Cymru" yng Nghwpan y Byd 2019.
Ychwanegodd ei fod yn "edrych ymlaen at fy nhaith i Gymru" wrth iddo ymweld â'r wlad am yr eildro.
Inline Tweet: https://twitter.com/AmbJapanUK/status/1876351794856579555
Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi 2025 fel 'Blwyddyn Cymru Japan', gyda nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu rhwng y ddwy wlad.
Fe fydd carfan rygbi Cymru hefyd yn mynd ar daith i Japan yn ystod 2025 - gan chwarae dwy gêm brawf yn y wlad ar 12 a 19 Gorffennaf.
Mae Mr Suzuki eisoes wedi cwrdd gyda Gweinidog Amddiffyn y DU, Vernon Coaker ar ei daith i'r Deyrnas Unedig.