Bron i 100 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn yn Tibet
Mae bron i 100 o bobl wedi marw o ganlyniad i ddaeargryn yn Tibet.
Fe wnaeth y ddaeargryn, oedd yn mesur 7.1 ar y raddfa Richter daro'r ardal am 09.05 amser lleol (01.05 GMT) ddydd Mawrth.
Yn ôl asiantaeth newyddion Xinhua yn Tsieina, mae 95 o bobl wedi marw bellach a 130 o bobl hefyd wedi eu hanafu.
Mae tua 1,500 o weithwyr brys yn ymateb i'r daeargryn ac yn ceisio dod o hyd i bobl yng ngweddillion adeiladau, meddai Gweinyddiaeth Rheoli Argyfyngau Tsieina.
Mae Tingri, ger canolbwynt y daeargryn, yn ganolfan boblogaidd i ddringwyr sy'n paratoi i ddringo mynydd Everest.
Mae teithiau i Everest o Tingri sydd wedi eu trefnu ar gyfer bore dydd Mawrth wedi’u gohirio, meddai staff y diwydiant twristiaeth wrth y cyfryngau lleol.
Llun: Wochit