Newyddion S4C

Llys yn rhewi cyfrif banc dyn a oedd yn cuddio rhag yr FBI yn Sir Conwy

Daniel Andreas San Diego

Mae cyfrifon banc dyn aeth ar ffo o'r awdurdodau yn yr UDA am 20 mlynedd cyn iddo gael ei ddal yng ngogledd Cymru wedi cael eu rhewi gan y llys.

Cafwyd hyd i Daniel Andreas San Diego, dyn 46 oed a oedd ar restr ‘Most Wanted’ yr FBI, ym Maenan ger Llanrwst yn Sir Conwy, lle’r oedd wedi prynu tŷ yno y llynedd.

Mae wedi ei amau o fod wedi gadael dau fom mewn dau adeilad yn San Francisco yng Nghaliffornia yn 2003.

Ymddangosodd San Diego yn Llys Ynadon Llandudno drwy gyswllt fideo o Garchar HMP Belmarsh yn Llundain.

Gofynnodd yr heddlu am orchymyn rhewi cyfrif am ddeuddeg mis ar gyfer arian a gedwir yng nghyfrifon Banc Lloyds yn y DU tra bod ymholiadau pellach yn cael eu gwneud.

Dywedodd ymchwilydd ariannol yr heddlu fod y cyfrifon yn enw Danny Webb, sydd bellach yn cael ei adnabod fel San Diego.

Roedd gan dri chyfrif gyfanswm o fwy na £20,000.

Mae San Diego yn y ddalfa, ac yn aros i gael ei gymryd i’r Unol Daleithiau.

Caniataodd y barnwr rhanbarth Gwyn Jones gais yr heddlu am orchymyn rhewi cyfrifon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.