Newyddion S4C

Baban chwe mis oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro

Baban chwe mis oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro

Mae baban chwe mis oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro ar ddechrau'r mis.

Bu farw Sophia Keleman o Leigh, yn ardal Manceinion, o'i hanafiadau yn yr ysbyty ar 3 Ionawr, ddiwrnod wedi'r gwrthdrawiad ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.

Mae Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, a gyrru heb yswiriant na thrwydded, ar ôl iddo gael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad.

Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar ddydd Sadwrn 4 Ionawr.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror.

Cafodd hefyd ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau. 

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth am y troseddau honedig hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys bod teulu’r plentyn yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda’i theulu ar yr adeg anodd hon.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac yn ymchwiliad byw. Gofynnwn i chi beidio â dyfalu ynglŷn â’r amgylchiadau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.