Canmol enw 'athrylithgar' Eisteddfod 2026
Mae enw arfaethedig Eisteddfod 2026 wedi ei ganmol fel un "athrylithgar" gan olygydd y papur bro lleol.
Mae disgwyl mai Eisteddfod y Garreg Las fydd enw swyddogol yr ŵyl ar ôl i'r brifwyl yrru ebost at gyfranwyr lleol yn cynnwys yr enw ar restr o holl gystadlaethau’r Eisteddfod.
Yn Llantŵd ar gyrion Aberteifi y bydd maes yr Eisteddfod.
Ond fe fydd Eisteddfod 2026 yn cwmpasu tair sir, gyda dalgylch yr ŵyl yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin sydd yn ffinio â Sir Benfro.
Y cyntaf i adrodd ar enw tebygol yr ŵyl oedd papur bro Preseli, Clebran.
Dywedodd golygydd y papur, Hefin Wyn fod yr enw yn "cyfleu hanfod" Sir Benfro.
"Mae'r dewis o Eisteddfod y Garreg Las yn ddewis athrylithgar ar ran rhywun gan ei fod yn cyfleu hanfod y sir a hyd yn oed yn creu cyswllt â Chôr y Cewri," meddai Hefin Wyn wrth Newyddion S4C.
"Mae'r dalgylch yn cynnwys godre Ceredigion mor bell â Chei Newydd a Phontsian a Llanfihangel-ar-arth...Castellnewydd Emlyn a gorllewin Sir Gâr mor belled â Thre-lech a Hendy-gwyn ar Daf.’
"Ma' nhw'n ardaloedd mwy 'steddfodol' nac ardaloedd yn ne Sir Benfro. Ma' nhw'n rhan o'r hen Ddyfed a'r Deheubarth.
"Ac, wrth gwrs, nawr yn cynnwys Aberteifi a'r castell yno lle cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf erioed y gwyddom amdani yn 1176."
'Tipyn o her'
Ychwanegodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2026, John Davies bod "cynrychioli hanes, chwedloniaeth a gwerthoedd" yn bwysig wrth ddewis enw.
"Fuodd dod o hyd i enw i Eisteddfod sydd yn anwesu rhan o dair Sir yn dipyn o her," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd yn bwysig i gael enw oedd yn anwesu ardal yn ddaearyddol, ond hefyd yn cynrychioli hanes, chwedloniaeth a gwerthoedd.
"Os yn sefyll ar Sgwâr Synod Inn neu mewn Cae yn ardal Trelech, neu ar lan y Cleddau yn ne Sir Benfro fe welwch fynyddoedd y Preseli sydd yn adlewyrchu rhinweddau'r Garreg Las o Gôr y Cewri i Foel Cwm Cerwyn.
"Rwy’n sicr fydd Eisteddfod y Garreg Las y flwyddyn nesaf, yn medru cynnal yr annibyniaeth barn hynny mae Waldo yn sôn cymaint amdano yn ei gerdd, Preseli."
Fe fydd yr Eisteddfod yn 2026 hefyd yn nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.
Fe fydd y brifwyl yn cael ei chynnal 1-8 Awst 2026.