Newyddion S4C

Rhybudd melyn am rew ag eira i ran helaeth o Gymru nos Lun

Rhew Heddlu'r Gogledd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ag eira i ran helaeth o Gymru nos Lun.

Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 17:00 ac yn dod i ben am 10:00 fore dydd Mawrth.

Yn ôl y rhagolygon fe allai cyfnodau o eirlaw ag eira ddatblygu, gan arwain at amgylchiadau rhewllyd ar y ffyrdd.

Fe allai eira ddisgyn yn eang ar dir uwchben 200m.

Fe allai hyn effeithio ar drafnidiaeth mewn mannau, yn enwedig ar ffyrdd mwy anghysbell sydd heb gael eu graeanu.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.