Llywodraeth y DU yn ‘gweithio’n gyflym’ er mwyn mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw'n “gweithio’n gyflym” er mwyn cyflwyno newidiadau a fydd yn mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol.
Daw eu sylwadau wedi i bleidiau'r Ceidwadwyr a Reform UK alw am ymchwiliad newydd i gangiau sy’n grwmio plant.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw’n gweithio er mwyn cyflwyno argymhellion adroddiad gan yr Athro Alexis Jay a gafodd ei gyflwyno yn 2022.
Mae hi wedi galw am “weithredu’n llawn” y diwygiadau a osodwyd yn ei hadroddiad yn 2022, gan ddweud bod cam-drin “endemig” yng Nghymru a Lloegr.
Ond dywedodd hefyd ddydd Llun nad oedd hi’n cytuno y dylid ei wneud yn bwnc gwleidyddol a dywedodd fod yna lawer o “gam-wybodaeth” yn cael ei rannu ar hyn o bryd.
Mae pwnc gangiau grwmio yn un sydd wedi dod i sylw'r bilwynydd Elon Musk sydd wedi defnyddio ei lwyfan X, Twitter gynt, i gyhoeddi negeseuon yn beirniadu Llywodraeth y DU.
Mae wedi bod yn llym ei feirniadaeth o Jess Phillips, sy’n weinidog yn y Swyddfa Gartref, gan ddweud y dylai hi “fod yn y carchar” am wrthod cynnal ymchwiliad newydd.
'Troseddau erchyll'
Ddydd Llun dywedodd Llywodraeth y DU eu bod nhw’n gweithio “yn gyflym” i weithredu argymhellion ymchwiliad annibynnol yr Athro Alexis Jay.
“Ni ddylai unrhyw blentyn fyth ddioddef camdriniaeth rywiol ac mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud mwy i amddiffyn plant sy’n agored i niwed,” medden nhw.
“Dyna pam yr ydym yn gweithio’n gyflym ar draws y llywodraeth i fwrw ymlaen â chamau gwirioneddol i roi argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ar waith.
“Bu’r Athro Alexis Jay yn gweithio am saith mlynedd ar ymchwiliad annibynnol cynhwysfawr ac mae’n parhau i weithio gyda goroeswyr y troseddau erchyll hyn.
”Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda goroeswyr a grwpiau arbenigol.”
Ddydd Sul dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Wes Streeting bod ymosodiadau Elon Musk ar y llywodraeth a Jess Phillips yn benodol yn “warthus”.
“Mae’n ymosodiad gwarthus ar ddynes wych sydd wedi treulio ei bywyd yn cefnogi dioddefwyr y math o drais y mae Elon Musk ac eraill yn dweud eu bod nhw’n ei erbyn,” meddai wrth raglen Sunday y BBC gyda Laura Kuenssberg.