Newyddion S4C

Emilia Perez a The Brutalist yr enillwyr mwyaf yng Ngwobrau’r Golden Globes

06/01/2025
Karla Sofia Gascon

Y ffilmiau Emilia Perez a The Brutalist oedd yr enillwyr mwyaf yng Ngwobrau’r Golden Globes nos Sul.

Fe enillodd Emilia Perez, sioe gerdd operatig sy'n adrodd hanes arglwydd cyffuriau o Fecsico sy'n newid rhyw, bedair gwobr.

Y gwobrau oedd:

  • Y gomedi neu'r sioe gerdd orau
  • Y ffilm orau nad yw'n Saesneg
  • Y gân orau hefyd
  • Yr actores mewn rhan gefnogol orau i Zoe Saldana

Wrth dderbyn y wobr am ffilm orau nad yw’n Saesneg, dywedodd yr actores draws Karla Sofia Gascon, 52, wrth y gynulleidfa bod "y golau bob amser yn trechu’r dywyllwch”. 

“Efallai y gallwch chi ein rhoi yn y carchar,” meddai. “Gallwch chi ein curo ni. 

“Ond ni allwch chi byth gymryd ein henaid na'n bodolaeth i ffwrdd, neu’n hunaniaeth... Fi yw pwy ydw i.”

Fe enillodd The Brutalist, sy'n dilyn hanes pensaer o Hwngari sy'n ceisio adeiladu bywyd yn yr Unol Daleithiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dair gwobr. 

Y gwobrau oedd:

  • Y ddrama orau
  • Yr actor gorau i Adrien Brody
  • A’r cyfarwyddwr gorau i Brady Corbet

Roedd yna hefyd wobrau actio i Demi Moore (The Substance), Sebastian Stan (A Different Man), Fernanda Torres (I’m Still Here) a Kieran Culkin (A Real Pain).

Dywedodd Demi Moore, 62, mai dyna’r wobr gyntaf yn ei gyrfa actio 45 mlynedd a’i bod “mewn sioc” ei bod wedi curo y seren Wicked Cynthia Erivo a’r actores Challengers, Zendaya.

Yn y categori teledu, fe enillodd y ddrama hanesyddol Japaneaidd Shōgun bedair gwobr a Baby Reindeer dwy.

Llun: Karla Sofia Gascon gan Wochit.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.