The Vivienne: Teyrngedau i'r seren Drag 'rhyfeddol' o Fae Colwyn
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r seren Drag “rhyfeddol” a “hynod dalentog” o Fae Colwyn, The Vivienne a fu farw yn 32 oed.
Fe enillodd James Lee Williams gyfres gyntaf o RuPaul’s Drag Race UK tra’n perfformio rhan The Vivienne yn 2019.
Mewn datganiad nos Sul cyhoeddodd swyddog cyhoeddusrwydd The Vivienne y bydd colled fawr ar eu hol nhw wrth gyhoeddi’r newyddion am eu marwolaeth.
Roedd yn berson “hynod annwyl, cynnes a rhyfeddol,” meddai Simon Jones.
Yn wreiddiol o Gonwy, fe symudodd The Vivienne i Lerpwl yn ddiweddarach a chael yr ysbrydoliaeth yno am eu henw drag.
Wrth siarad yn 2019 dywedodd roedd pobl leol yno yn aml yn eu galw yn ‘Vivienne’ gan eu bod nhw wastad yn gwisgo dillad Vivienne Westwood.
'Torcalonnus'
Mewn teyrnged nos Sul dywedodd un o feirniaid cyfres RuPaul’s Drag Race, Michelle Visage bod y newyddion yn “dorcalonnus.”
“Eich hiwmor, eich talent, eich Drag. Roeddwn i'n caru'r cyfan ond roeddwn i'n caru eich cyfeillgarwch yn bennaf oll,” meddai.
Yn dilyn cyfnod yn perfformio fel rhan o gast The Wizard Of Oz yn y West End yn Llundain, roedd disgwyl i The Vivienne dychwelyd i’r llwyfan y mis nesaf fel un o gymeriadau’r sioe Chitty Chitty Bang Bang.
Roedd The Vivienne hefyd wedi cystadlu ar y rhaglen deledu boblogaidd Dancing On Ice yn 2023 gan ddod yn drydydd.
Dywedodd y beirniad Oti Mabuse ei bod yn cofio “talent” The Vivienne gan ddweud eu bod nhw'n “berfformiwr anhygoel.”
Mewn datganiad dywedodd RuPaul’s Drag Race eu bod yn “hynod o drist” yn dilyn marwolaeth The Vivienne.
Llun: @thevivienne_/Instagram