'Eira trwm' mewn rhannau o'r gogledd fore Llun
Mae "eira trwm" yn syrthio yn rhannau o'r gogledd meddai Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun.
Wedi peth eira dros y penwythnos, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer eira a rhew fore Llun mewn rhannau o Gymru.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw'n "gweld eira trwm ar draws y rhan fwyaf o sir Wrecsam".
"Ewch ar deithiau angenrheidiol yn unig ac os oes angen i chi deithio gadewch ddigon o amser i wneud hynny," medden nhw.
"Sicrhewch fod unrhyw eira ar gerbydau yn cael ei symud cyn cychwyn ar y siwrnai a sicrhewch fod gennych ddillad cynnes a phethau angenrheidiol yn eich cerbydau."
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod coeden sydd wedi disgyn yn rhwystro'r lein rhwng Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno yng Ngogledd Cymru.
Yn Sir Wrecsam, mae Ysgol Bryn Alun ar gau oherwydd y tywydd.
Yn Sir y Fflint, mae ysgolion Ysgol Maes Hyfryd a Bryn Tirion (Plas Derwen) wedi dweud y bydde nhw ar gau oherwydd y tywydd.
Mae Ysgol Uwchradd Brynhyfryd ac Ysgol Gynradd Pant Pastynog yn Sir Ddinbych hefyd ar gau.
Ar ddechrau'r wythnos waith, y cyngor ydy i neilltuo digon o amser ar gyfer teithiau ar y ffyrdd gan gadw golwg ar unrhyw ddiweddariadau am gyflwr yr heolydd.
Bydd y rhybudd mewn grym hyd hanner dydd.
"Bydd eira pellach dros fryniau gogledd Lloegr a gogledd Cymru gyda 5-10 cm yn syrthio mewn mannau y bore ma," meddai'r Swyddfa Dywydd.
"Bydd glaw hefyd yn troi'n eira ar dir is, yn enwedig dros ogledd-ddwyrain Cymru a rhannau ogleddol canolbarth Lloegr, lle gallai 2-5 cm syrthio.
"Bydd yr eira yn lleddfu eto yn hwyrach yn y bore."
Mae'n effeithio ar y siroedd canlynol:
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Powys
- Wrecsam