Nid Farage yw'r dyn i arwain Reform UK medd Musk
Mae'r biliwnydd Elon Musk wedi awgrymu nad oes gan Nigel Farage “yr hyn sydd ei angen” i arwain Reform UK, rai wythnosau wedi i'r ddau gael cyfarfod "gwych" yn America.
Cafodd perchennog Tesla a chyfrwng cymdeithasol X (Twitter gynt) – gyfarfod gyda Mr Farage ym mis Rhagfyr yng nghartref y darpar Arlywydd Donald Trump ym Mar-a-Lago.
Dywedodd Nigel Farage ar y pryd fod y cyfarfod hwnnw yn "hanesyddol".
Cafodd y cyfarfod ei gynnal yng nghanol adroddiadau fod Elon Musk yn ystyried cyfrannu hyd at 100 miliwn o ddoleri i blaid Reform UK.
Mae Mr Farage hefyd wedi amddiffyn y biliwnydd wedi iddo feirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hallt oherwydd y modd y mae nhw wedi ymdrin â gangiau sy'n ecsbloetio plant yn rhywiol.
Tommy Robinson
Ond doedd e ddim yn fodlon amddiffyn cefnogaeth Mr Musk i'r ymgyrchydd adain dde sydd wedi ei garcharu, Tommy Robinson.
Yn ôl Mr Farage, dyw ei blaid ddim angen Mr Robinson.
Wedi'r sylwadau hynny, mae Elon Musk wedi dweud ar ei gyfrif X brynhawn Sul:“Mae Plaid Reform angen arweinydd newydd. Nid oes gan Farage yr hyn sydd ei angen".
Mae Nigel Farage wedi ymateb i hynny ar ei gyfrif X gan nodi: “Wel, mae hyn yn syrpreis! Mae Elon yn unigolyn rhyfeddol, ond ar y mater hwn, mae'n flin gen i ddweud, rwy'n anghytuno.
“Yr un yw fy marn - nid Tommy Robinson yw'r person cywir ar gyfer Reform, a wna i fyth gefnu ar fy egwyddorion.”
Inline Tweet: https://twitter.com/Nigel_Farage/status/1875918844562473373