'Argyfwng cenedlaethol': Jess Davies yn croesawu camau newydd i fynd i'r afael â thechnoleg 'deepfake'
Bydd Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â thechnoleg deepfake sy'n creu lluniau ffug o natur rywiol, a hynny wrth i'r arfer ddod yn drosedd yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r drosedd newydd yn golygu y gall unrhyw un sydd yn creu lluniau o natur rywiol heb ganiatâd wynebu cofnod troseddol, dirwy neu hyd yn oed garchar.
Mae'r ddarlledwraig o Gymru, Jess Davies, sydd wedi codi ymwybyddiaeth am deepfakes, yn croesawu'r cynlluniau newydd i daclo'r broblem.
Dywedodd Ms Davies fod y math yma o gamdriniaeth yn "argyfwng cenedlaethol sy’n achosi niwed sylweddol, hirdymor i ferched".
"Ni ddylai merched orfod derbyn aflonyddu a chamdriniaeth rywiol fel rhan arferol o’u bywydau ar-lein," meddai.
"Mae angen gweithredu ar frys a chael deddfwriaeth i amddiffyn merched yn well rhag y raddfa anferth o gam-driniaeth y maent yn ei brofi ar-lein."
Technoleg yw deepfakes sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial ('artificial intelligence') i droi lluniau diniwed o fenywod yn ddelweddau pornograffig.
Mae nifer y delweddau ffug hyn wedi lledaenu'n eang ar-lein yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y troseddau newydd yn galluogi Llywodraeth y DU i dargedu pobl sy'n creu ac yn rhannu delweddau o'r fath.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Alex Davies-Jones, y byddai'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau newydd yn "wynebu grym llawn y gyfraith".
Mae hyn yn adeiladu ar droseddau sydd â’r nod o fynd i’r afael â rhannu delweddau personol, gan gynnwys deepfakes, a gyflwynwyd yn 2023.
'Annerbyniol'
Dywedodd Ms Davies-Jones ei bod yn "annerbyniol" bod un o bob tair menyw wedi dioddef camdriniaeth ar-lein.
"Mae'n rhaid i ni beidio â normaleiddio’r math diraddiol a ffiaidd hwn o rywiaeth," meddai.
"Ac fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid, rydym yn ceisio mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod – beth bynnag fo’i ffurf."
Ychwanegodd: "Bydd y troseddau newydd hyn yn helpu i atal pobl rhag cael eu herlid ar-lein.
"Rydyn ni’n rhoi rhybudd i droseddwyr – fe fyddan nhw’n wynebu grym llawn y gyfraith."