Sefydlu cyngor newydd i gefnogi diwydiant dur y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cyngor dur newydd wedi i filoedd o weithwyr golli eu swyddi yn y diwydiant y llynedd.
Bydd y Cyngor Dur yn helpu i greu cynlluniau ar gyfer y diwydiant ac yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o hyd at £2.5 biliwn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds, a fydd yn cadeirio cyfarfod cyntaf y cyngor ddydd Mawrth, fod cymunedau dur, gan gynnwys cymuned Port Talbot yn ne Cymru, "wedi cael digon o symud o argyfwng i argyfwng".
Bydd prif weithredwyr Tata Steel a British Steel, ynghyd ag undeb y GMB, ymhlith yr aelodau fydd yn cyfarfod yn rheolaidd.
Fe gyhoeddodd Tata Steel ym mis Medi eu bod wedi diffodd y ffwrnais chwyth olaf yng ngwaith dur Port Talbot yn ne Cymru.
Roedd disgwyl i dros 2,000 o swyddi gael eu colli o ganlyniad i'r newid i ddefnyddio system gynhyrchu arc trydan.
Fe gyhoeddodd British Steel hefyd y byddai’n cau ei ffwrneisi chwyth yn Scunthorpe yn Swydd Lincoln yn 2023, gan gyflwyno cynlluniau tebyg.
Roedd y cynlluniau, sy'n fwy gwyrdd ond angen llai o weithwyr i'w cynnal, wedi codi pryderon y gallai miloedd o swyddi gael eu colli.
'Cymunedau wrth galon ein cynlluniau'
Mae Llywodraeth y DU wedi addo gwario £2.5 biliwn "i ailadeiladu’r diwydiant dur".
Byddai'r arian yn cyd-fynd â phecyn ar wahân gwerth £500 miliwn ar gyfer Tata Steel i gefnogi'r cynhyrchiad dur newydd ym Mhort Talbot.
Mae’r Cyngor Dur yn gweithio tuag at lansio strategaeth ddur Llywodraeth y DU yn y gwanwyn.
Mae disgwyl i’r strategaeth nodi sut y gellir cynyddu capasiti dur yn y DU.
Bydd y cyngor hefyd yn trafod sut i wario'r £2.5 biliwn o gyllid.
"Mae’r diwydiant a’r cymunedau dur wedi cael digon o symud o argyfwng i argyfwng – bydd y llywodraeth hon yn cymryd y camau sydd eu hangen i roi dur ar sylfaen ddiogel yn y tymor hir," meddai Mr Reynolds.
"Gyda lansiad y Cyngor Dur rydym yn gosod gweithwyr a chymunedau lleol wrth galon ein cynlluniau wrth i ni gynnig £2.5 biliwn o fuddsoddiad i sicrhau twf ar draws y wlad."