Newyddion S4C

Rygbi: Regan Grace yn ymuno â Chaerdydd

Regan Grace

Mae cyn seren rygbi'r gynghrair Regan Grace wedi ymuno â Rygbi Caerdydd.

Cyhoeddodd y rhanbarth bod yr asgellwr 28 oed wedi ymuno â'r clwb ar gytundeb chwe mis, ond fe allai'r cytundeb hwnnw gael ei ymestyn.

Ers symud o rygbi'r gynghrair i rygbi'r undeb yn 2022 mae Grace wedi profi cyfnod anodd gydag anafiadau.

Nid oedd wedi chwarae o gwbl i'w glwb gyntaf Racing 92 yn Ffrainc, a dwy gêm yn unig chwaraeodd i Gaerfaddon.

Dywedodd ei fod eisiau chwarae yn gyson i Gaerdydd ac ei fod yn edrych ymlaen at chwarae yng Nghymru.

"Dwi'n teimlo'n gyffrous - mae Caerdydd yn glwb mawr, hanesyddol," meddai.

"Mae dychwelyd i chwarae yng Nghymru yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud erioed, felly i wneud hynny yn y brifddinas, mae'n gyfle gwych.

"Dwi eisiau chwarae, i allu chwarae mewn gemau'n olynol, chwarae'n gyson a pharhau i ddysgu."

Ychwanegodd: "Rydych chi'n dysgu trwy chwarae a dwi'n edrych ymlaen at gynnig i chwarae i'r clwb hwn."

Chwaraeodd Grace, sydd yn enedigol o Bort Talbot, dros Gymru yn erbyn Queensland Reds yng nghyfres yr haf yn Awstralia.

Enillodd y Super League a'r Gwpan Her yn ystod ei gyfnod yn chwarae rygbi'r gynghrair gyda St Helens.

Llun: Rygbi Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.