Rhybudd melyn am rew ac eira yn parhau i ran helaeth o Gymru
Bydd rhybudd melyn am rew ac eira yn parhau mewn grym i ran helaeth o Gymru fore dydd Mawrth.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 17.00 ddydd Llun ac fe fydd yn parhau tan 10:00 fore Mawrth.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai cyfnodau o eirlaw ag eira ddatblygu, gan arwain at amgylchiadau rhewllyd ar y ffyrdd.
Fe allai hyn effeithio ar drafnidiaeth mewn mannau, yn enwedig ar ffyrdd mwy anghysbell sydd heb gael eu graeanu.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn.
Wedi peth eira dros y penwythnos, roedd rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym ar gyfer gogledd Cymru tan 12.00 ddydd Llun.
Roedd nifer o ysgolion ar gau yn y gogledd ddwyrain ddydd Llun oherwydd y tywydd garw.