Eira yn achos trafferthion mewn rhannau o Gymru
Eira yn achos trafferthion mewn rhannau o Gymru
Mae eira yn achosi trafferthion mewn rhannau o Gymru ddydd Sul gyda ffyrdd wedi cau a rhai wedi colli eu cyflenwad trydan.
Mae 10 cm o eira wedi disgyn yng Nghapel Curig, Sir Conwy, ac mae rhybudd oren yn dal i fod mewn grym ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru tan hanner dydd, ddydd Sul, gyda rhybudd melyn am eira a rhew tan hanner nos.
Ac mae rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru tan 21:00 nos Sul.
Mae rhybudd melyn arall am eira a rhew wedi ei gyhoeddi ar gyfer siroedd y gogledd ag eithrio Môn rhwng 00:00 nos Lun a hanner dydd, ddydd Llun 6 Ionawr.
Mae'r heddlu yn cynghori pobl i beidio â theithio os yw'r amodau yn wael.
Yn ol Heddlu'r Gogledd, mae nifer o ddamweiniau yn ardal Llanddulas yn Sir Conwy ar ddwy lôn yr A55, gyda cherbydau yn gaeth yn yr eira.
Roedd rhybudd hefyd i osgoi ffordd yr A494 yn Aston Hill ar Lannau Dyfrdwy.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys fod ffordd y A483 rhwng Crossgates a Llanbister ym Mhowys wedi cau cyn agor yn ddiweddarch fore dydd Sul.
Mae rhai cartrefi heb drydan mewn ardaloedd yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Mae National Grid yn amcangyfrif y bydd y rhan fwyaf o'u cwsmeriaid wedi cael eu trydan yn ôl erbyn prynhawn Sul.
Problemau teithio
Mae'r eira wedi amharu ar wasanaethau mewn meysydd awyr.
Roedd maes awyr John Lennon yn Lerpwl ar gau fore Sul, cyn ail agor yn ystod y prynhawn , ac mae maes awyr Manceinion wedi ail agor ar ôl cau yn gynharach fore Sul wedi i eira trwm ddisgyn.
Mae'r eira wedi effeithio ar wasanaethau ym maes awyr Birmingham hefyd.
Caeodd maes awyr Bryste am gyfnod nos Sadwrn a chafodd rhai hediadau eu dargyfeirio i Faes Awyr Caerdydd.
Mae hynny wedi amharu ar drefniadau teithio Alun Jones o Gaerfyrddin oedd ymhlith nifer o deuluoedd o Gymru oedd i fod i deithio o Awstria i Fryste nos Sadwrn.
Dywedodd Mr Jones: “Ar ôl 2 awr ar yr awyren neithiwr [nos Sadwrn] yn eistedd ar y tarmac ym maes awyr Salzburg, cafon ni wybod bod y flight ddim yn mynd i fynd tan prynhawn heddiw [dydd Sul].
“O’dd ‘na dipyn o lanast gyda neb o easyJet ar gael yn y maes awyr i drefnu lle bydden ni’n aros dros nos. Cafwyd e-bost gan easyJet yn rhybuddio os bydden ni’n bwcio gwesty ein hunain a bod y cwmni yn gallu trefnu gwesty i ni, wedyn na fyddai modd hawlio ad-daliad. Fe wnaeth staff y maes awyr ein hanfon ni i westy tua 2am bore ‘ma a wedyn gorfod talu ein hunain wedi’r cyfan. Ma’ pawb mewn hwyliau da ac yn gobeithio am well lwc heddiw!”
Dywedodd cwmni easyjet fod nifer o gwmnïau hedfan wedi profi anawsterau ym maes awyr Bryste oherwydd y tywydd.
Ychwangeodd y cwmni: “Er bod llety mewn gwestai’n gyfyngedig, fe wnaethom fodd bynnag ddarparu ystafelloedd lle gallem, yn ogystal â phrydau bwyd a hoffem sicrhau’r rhai oedd angen archebu llety eu hunain, y byddant yn cael eu had-dalu am hyn.
“Tra bod oedi oherwydd y tywydd y tu hwnt i’n rheolaeth, ry'n ni'n ymddiheuro i bob cwsmer sydd wedi profi anghyfleustra. Diogelwch a lles ein cwsmeriaid a’n criw yw prif flaenoriaeth EasyJet.”
Yn y cyfamser, mae gwasanaethau trenau yn Nyffryn Conwy wedi eu gohirio am gyfnod oherwydd bod coeden wedi cwympo ar y cledrau.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod coeden wedi cwympo rhwng Dolgarrog a Phont Rufeinig yn ogystal â llifogydd yn ardal Dolgarrog yn golygu fod gwasanaethau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi eu gohirio tan ddydd Gwener 10 Ionawr.
Fe fydd bysiau yn rhedeg rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn eu lle.
Prif lun: Sian Meirion- Yr Wyddgrug.