Newyddion S4C

Cynnal rhan gyntaf angladd cyn-arlywydd America Jimmy Carter

Angladd Carter

Mae angladd cyn-arlywydd America, Jimmy Carter wedi dechrau yn ei gartref yn nhalaith Georgia, gyda'r gwasanaeth gwladol i'w gynnal ddydd Iau nesaf yn Washington DC.  

Daeth cyhoeddiad ar 29 Rhagfyr ei fod wedi marw yn 100 oed. 

Roedd Mr Carter yn arlywydd rhwng 1977 ac 1981, a fe yw'r cyn-arlywydd sydd wedi byw am y cyfnod hwyaf yn America. 

Cafodd Mr Carter ei eni ym 1924 yn Georgia a chafodd ei ethol yn seneddwr y dalaith yn y 60au cyn cael ei benodi yn llywodraethwr y dalaith yn 1971. 

Bu farw yn Plains, Georgia, gyda'i deulu o'i amgylch.   

Teithiodd i Gymru ar sawl achlysur a bu yng nghapel anghysbell Soar y Mynydd, Tregaron a Llanddewi Brefi yn yr 80au ac aeth ati i gneifio dafad yn ystod ymweliad â Chwrt y Cadno, Sir Gaerfyrddin. 

Bu hefyd ar wyliau pysgota yn ardal Llanidloes ac roedd wrth ei fodd â barddoniaeth Dylan Thomas.  

Wrth i'w angladd ddechrau brynhawn Sadwrn, teithiodd arch Jimmy Carter heibio ei gartref teuluol ar fferm y tu allan i Plains.

Cafodd cloch ei chanu yno 39 o weithiau er mwyn ei anrhydeddu fel 39fed arlywydd America. 

Mae sawl cymal i'r angladd, gydag arch Mr Carter yn teithio deirawr o Plains i Atlanta ddydd Sadwrn ar gyfer seremoni yn y Carter Presidential Center. 

Bydd yn Atlanta tan fore Mawrth, pan gaiff ei gludo i Washington DC lle bydd yn gorwedd yn gyhoeddus yn adeilad y Capitol. 

Bydd yr angladd gwladol yn cael ei gynnal fore Iau am 10:00 yng Nghadeirlan Genedlaethol Washington. 

Yna bydd ei arch yn dychwelyd i Plains, Georgia, gyda gwasanaeth angladdol i wahoddedigion yn unig yn cael ei gynnal yn Eglwys y Bedyddwyr, Maranatha.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.