Dyn o'r Bala dan amheuaeth o wawdio trychineb mewn gêm bêl-droed yn Anfield
Mae’r heddlu wedi holi dyn 21 oed o'r Bala yng Ngwynedd mewn cysylltiad â honiad o wawdio trychineb ('tragedy chanting') yn y gêm bêl-droed rhwng Lerpwl a Manchester United ddydd Sul.
Cafodd wyth person eu holi gan Heddlu Glannau Mersi yn dilyn adroddiadau o gefnogwyr yn gwawdio wrth ganu am drychineb yn ystod y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr, a gafodd ei chwarae yn Anfield.
Fe gafodd un dyn 46 oed o Sir Nottingham a dyn 28 oed o Tennessee, Yr Unol Daleithiau, eu harestio dan Adran 5 o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus.
Fe gafodd chwe pherson ychwanegol eu holi dan rybudd, ar amheuaeth o gyflawni’r un drosedd o wawdio trychineb.
Yn eu plith, roedd y dyn 21 oed o’r Bala.
Dywedodd y Prif Arolygydd Lisa Ledder o Heddlu Glannau Mersi: “Mae cefnogwyr pêl-droed sy’n canu am drychinebau yn achosi trallod enfawr i’r teuluoedd a’r bobl hynny sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol.
“Nid yw marwolaethau trasig yn destun sgorio pwyntiau rhwng cefnogwyr, ac nid oes gan yr ymddygiad hwn unrhyw le o gwbl ym mhêl-droed.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda chlybiau i gymryd camau i ddod ag unrhyw un arall sy'n cyflawni'r troseddau yma o flaen eu gwell."
Llun: Anfield (Wochit/Gareth Evans)