Cip ar gemau dydd Sadwrn yn y Cymru Premier JD
Dydd Sadwrn nesaf mi fydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy, ond cyn y gemau terfynol rheiny mae yna gemau wrth gefn i’w chwarae y penwythnos hwn.
Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, ond mae pum clwb arall yn dal i gystadlu am y tri safle olaf ymysg yr elît.
Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Bala a Chaernarfon yng nghanol y tabl ond bu'n rhaid gohirio eu gêm nos Wener oherwydd roedd y cae wedi rhewi.
Dydd Sadwrn, 4 Ionawr
Hwlffordd (3ydd) v Llansawel (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Hwlffordd wedi hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf yn ystod cyfnod y 12 Disglair gan warantu eu bod am orffen yn eu safle uchaf ers 20 mlynedd.
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 9 gôl mewn 20 gêm), ac fe gadwodd Zac Jones ei 12fed llechen lân yn y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Aberystwyth ar ddydd Calan.
Fe sicrhaodd Llansawel bwynt gwerthfawr yn erbyn Y Barri ar nos Galan sy’n golygu bod y Cochion m’ond wedi colli un o’u pedair gêm ddiwethaf (vs YSN), a byddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn eu codi o’r ddau safle isaf.
Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Hydref, yn ennill o 2-1 ar yr Hen Heol diolch i goliau gan Owain Jones a Lee Jenkins.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌➖❌✅✅
Llansawel: ❌✅❌✅➖
Pen-y-bont (2il) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl treulio 18 wythnos ar frig y tabl, mae Pen-y-bont wedi llithro i’r ail safle yn dilyn gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn Met Caerdydd ar nos Galan.
Roedd Pen-y-bont ar y blaen o 2-0 yn erbyn y myfyrwyr nos Fawrth, ond am y trydydd tro’r tymor hwn fe fethodd tîm Rhys Griffiths â churo Met Caerdydd wrth i’r ymwelwyr frwydro ‘nôl i gipio pwynt.
Er hynny, dim ond un pwynt sy’n gwahanu Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd gyda 12 gêm yn weddill, felly mae’n gaddo i fod yn ras gyffrous am y bencampwriaeth yn ail ran y tymor.
O ran Cei Connah, fe gollon nhw o 2-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar nos Galan, ond byddai buddugoliaeth i’r Nomadiaid yn erbyn Pen-y-bont yn eu codi i’r hanner uchaf am y tro cyntaf ers dechrau mis Medi.
Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe thymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid mewn perygl gwirioneddol o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni.
Gorffennodd Cei Connah yn 9fed yn nhymor 2021/22 ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys, ond oni bai am hynny mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ar bob achlysur ers gorffen yn 7fed yn 2014/15.
Gabriel Kircough sgoriodd unig gôl y gêm i Ben-y-bont yn yr ornest gyfatebol ar Gae y Castell ym mis Medi, ond cyn hynny doedd Pen-y-bont heb ennill yn eu saith gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅❌✅✅➖
Cei Connah: ͏❌✅➖✅❌
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
20 gêm yn hwyrach na’r disgwyl efallai, ond o’r diwedd mae’r Seintiau Newydd wedi dringo i gopa’r gynghrair am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl curo Cei Connah o 2-1 ar nos Galan.
Mae’r Seintiau wedi sgorio 18 gôl yn fwy nac unrhyw glwb arall y tymor hwn, ond ildio goliau yw’r broblem gan nad yw’r pencampwyr wedi cadw llechen lân yn eu 18 gêm ddiwethaf, ers curo Astana o 2-0 yng Nghyngres UEFA ym mis Hydref.
Mae Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl pum colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd.
Fe gafodd Y Drenewydd ddechrau cadarn i’r tymor ac roedd y Robiniaid yn 3ydd wedi eu saith gêm agoriadol.
Ond dyw criw’r canolbarth m’ond wedi ennill unwaith yn eu 14 gêm ers mis Medi, a bellach dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r Drenewydd a safleoedd y cwymp.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd, yn cynnwys buddugoliaeth swmpus o 6-1 oddi cartref ar Barc Latham ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅
Y Drenewydd: ͏❌❌❌❌❌
Gemau olaf cyn yr hollt – Dydd Sadwrn, 11 Ionawr am 12:45:
Aberystwyth v Llansawel
Caernarfon v Y Fflint
Cei Connah v Y Bala
Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd
Y Barri v Hwlffordd
Y Drenewydd v Pen-y-bont
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.