‘Noson orau fy mywyd’: Profiad Cymro o ddyfarnu ffeinal Pencampwriaeth Dartiau’r Byd
Mae Cymro wedi disgrifio’r profiad o ddyfarnu rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC fel “noson orau fy mywyd”.
Roedd Huw Ware yn dyfarnu ail ran yr ornest nos Wener pan enillodd Luke Littler, sy'n 17 oed, yn erbyn Michael van Gerwen o 7-3.
Littler yw'r person ifancaf erioed i gipio'r teitl.
“Dyna noson orau fy mywyd,” meddai’r dyn o’r Barri wrth siarad â Newyddion S4C.
“Roeddwn yno i ddyfarnu’r pum set olaf felly roedd y gêm yn ei hanterth pan ddechreuais.”
“Roeddwn yno i wneud swydd a chanolbwyntio ond fe wnes i ddechrau mwynhau ar ôl ychydig.
“Roedd yn gyffrous i mi ar y dechrau gan bod tri dart cyntaf Luke Littler yn 180 a’r tri nesaf ganddo hefyd yn 180 ar ei ffordd i orffen y cymal mewn naw dart sy’n beth prin yn y gamp.
“Doedd gen i ddim llawer o amser i feddwl am y peth achos bod y ddau yn chwaraewyr cyflym. Felly yn hynny o beth roedd fel unrhyw gêm arall er fod maint yr achlysur yn wahanol wrth gwrs.”
Prif rôl y dyfarnwr, meddai Huw, yw cyfri’r sgoriau a’u cyhoeddi i’r gynulleidfa ym Mhalas Alexandra ac i’r miliynau o bobl sy’n gwylio a gwrando adref.
“Mae fy rôl yn golygu cyfri’r rhifau a galw’r sgôr allan ar y meicroffon a sicrhau bod y gêm yn rhedeg yn llyfn a delio gydag unrhyw beth yn ymwneud â’r chwaraewyr, y bwrdd, y dorf neu’r fathemateg," meddai.
“Mae’r cyfri’r dartiau yn dipyn o sialens yn ei hun a dwi’n cyfrif fy hun heb ddefnyddio’r cyfrifiadur.
“Mae’n anodd i unrhyw beth fynd o’i le. Y prif beth allai fynd o'i le yw os oes camsyniad gyda’r cyfrif ond ‘da chi’n gallu cywiro hynny’n go gyflym.”
Codi ymwybyddiaeth
Mae Huw hefyd yn gobeithio bod ei rôl yn annog a hybu cyfleoedd i’r gymuned LHDTCRA+.
Datgelodd Huw Ware ei fod yn hoyw yn 2014 tra yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae e'n llysgennad LHDTCRA+ y PDC a Stonewall.
Yn 31 oed mae'n adeiladu proffil iddo'i hun ac mae ei gytundeb newydd gyda Winmau yn golygu y bydd ganddo wefan, blog a phodlediad ei hun.
Ei obaith yw gwneud dartiau yn gamp sydd yn gyfforddus i bawb.
Ychwanegodd: “Rwy’n falch iawn fel dyn hoyw agored i ddyfarnu’r ffeinal. Y peth pwysig yn gyntaf yw eich bod yn ddigon da i fod i fyny yna. Felly os oes yna fechgyn neu ferched hoyw yn teimlo nad yw’r gamp yn hygyrch iddyn nhw – wel nid hynny yw’r achos. Mae’r gamp yn agored i bawb a medrwch gyflawni a pherthyn.
“Mae’r byd yn newid a’r campau yn newid yr un pryd ac rwy’n teimlo balchder o’r gwelededd fedrai ei roi i’r gamp yn y cyd-destun hynny.
Mae Huw yn teimlo y bydd carfan newydd o bobl ifanc nawr yn cydio mewn dartiau yn dilyn llwyddiant Littler.
Dywedodd: “Mae Luke yn sicr wedi newid y gamp yn aruthrol. Rwy’n credu bydd rhieni nawr yn prynu byrddiau dartiau i’w plant.
“Roedd y gamp eisoes yn boblogaidd ond mae Luke wedi codi'r diddordeb i lefel arall yn enwedig ymhlith yr ifanc.”
Fydd gan Huw ddim llawer o amser i fyfyrio dros yr achlysur gyda blwyddyn brysur o’i flaen yn dyfarnu ar draws y byd.
Dywedodd:“Rwy' wedi lansio gwefan oedd yn boblogaidd yn ystod y gystadleuaeth ac mae podlediad ar y ffordd yn ystod y flwyddyn hefyd.
“'Dw i’n teithio i gystadleuaeth yn y Dwyrain Canol cyn bo hir ac yna mae cystadlaethau uwch-gynghrair a rhai Ewropeaidd.
A beth am chwarae dartiau ei hun? “D’oes gen i ddim amser i chwarae mwyach rwy’n rhy brysur yn dyfarnu,” meddai.