Newyddion S4C

New Orleans: Prydeiniwr ymhlith y meirw wedi ymosodiad Ddydd Calan

Edward Pettifer

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau fod dyn o Loegr ymhlith y bobl a gafodd eu lladd mewn ymosodiad yn New Orleans, UDA, Ddydd Calan.

Dywedodd Heddlu'r Met fod Edward Pettifer, 31 oed, o Chelsea yn Llundain ymhlith y 14 o bobl a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad.

Roedd Mr Pettifer yn llysfab i gyn nani'r Tywysogion William a Harry, sef Tiggy Legge-Bourke (Alexandra Pettifer bellach) a gafodd ei magu ar ystad Parc Glanwysg ger Crughywel ym Mhowys. 

Mae teulu Edward Pettifer wedi rhoi teyrnged i "fab, brawd, ŵyr, nai a ffrind gwych i gynifer".

Yn ystod yr ymosodiad, fe wnaeth dyn mewn ‘pickup’ yrru trwy dorfeydd ar Stryd Bourbon yn y ddinas cyn cael ei saethu gan yr heddlu.

Yn ol yr Arlywydd Biden, roedd Shamsud-Din Jabbar o Texas yn cefnogi grŵp IS, ac mae'r awdurdodau yn trin y gyflafan fel ymosodiad terfysgol.  

Dywedodd teulu Mr Pettifer: "Mae'r teulu cyfan wedi'u siomi gan y newyddion trasig am farwolaeth Ed yn New Orleans. Roedd yn fab, yn frawd, yn ŵyr, yn nai ac yn ffrind i gynifer.

"Byddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau yn ofnadwy. Mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd eraill sydd wedi colli aelodau o'u teulu oherwydd yr ymosodiad ofnadwy hwn. Gofynnwn i ni allu galaru colli Ed fel teulu yn breifat. Diolch."

Mewn datganiad, dywedodd Swyddfa Dramor y DU eu bod yn cefnogi'r teulu.

Yn ôl adroddiadau, mae'r Brenin Charles wedi cysylltu â'r teulu yn bersonol gan fynegi tristwch mawr ar ôl clywed y newyddion.   

Ac mae'r Tywysog William wedi dweud fod y newyddion yn sioc, a'i fod e a'i wraig Catherine yn meddwl am deulu Mr Pettifer a phawb sydd wedi colli anwyliaid yn y gyflafan.    

Mae chwaraewr pêl-droed coleg Americanaidd adnabyddus, nyrs ifanc a mam i blentyn pedair oed hefyd ymhlith y rhai a fu farw yn yr ymosodiad yn New Orleans. 

Llun: Heddlu'r Met 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.